Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhestr wirio cit argyfwng

P'un a ydych chi'n aros neu'n gadael, bydd pacio cit argyfwng bach yn eich helpu.

Cadwch y cit mewn man diogel yn eich cartref lle gallwch ei gyrraedd yn hawdd. Dylech gadw eich cit mewn bag dwrglos a'r 10 prif beth i'w cynnwys yw:

  1. Eich Cynllun argyfwng ar gyfer yr aelwyd (Word doc) [70KB], gan gynnwys rhifau cyswllt
  2. Torsh batri gyda batris sbâr neu dortsh weindio
  3. Pecyn cymorth cyntaf
  4. Dogfennau pwysig megis tystysgrifau geni a pholisïau yswiriant
  5. Dŵr mewn potel a bwyd parod na fydd yn difetha (pacio agorwr caniau os bydd angen)
  6. Allweddi sbâr ar gyfer eich cartref a'ch car
  7. Sbectol neu lensys cyswllt sbâr
  8. Pethau ymolchi a manylion meddyginiaethau pwysig
  9. Pin a phapur, cyllell boced, chwiban
  10. Cyflenwadau ar gyfer anifeiliaid anwes

Os oes rhaid i chi adael eich cartref, ac mae gennych amser i'w bacio'n ddiogel, dylech hefyd ystyried pacio:

  • meddyginiaethau hanfodol
  • ffôn symudol a gwefrydd
  • arian parod a chardiau credyd
  • dillad a blancedi sbâr
  • anifeiliaid anwes
  • gemau, llyfrau, teganau plant

Os bydd argyfwng lle nad yw'n ddiogel mynd allan, y cyngor a roddir fel arfer yw: Ewch i Mewn, Arhoswch i Mewn, Gwrandewch.

Ewch i mewn a chaewch bob ffenest a drws a throwch y radio lleol neu'r teledu ymlaen neu edrychwch ar y rhyngrwyd (newyddion lleol a chyfryngau cymdeithasol), lle bydd gwybodaeth a chyngor cyhoeddus gan yr ymatebwyr brys yn cael eu darlledu.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2023