Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhyddhad Gwelliannau (Trethi Annomestig)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhyddhad gwelliannau o 1 Ebrill 2024. Bydd ar gael hyd at 31 Mawrth 2029 er bydd busnes yn gymwys ar gyfer 12 mis yn unig o ryddhad gwelliannau o fewn y cyfnod hwnnw.

Bwriedir i'r rhyddhad gefnogi talwyr ardrethi sydd wedi buddsoddi mewn gwelliannau i'w eiddo annomestig trwy roi rhyddhad o'r ardrethi busnes ychwanegol sy'n daladwy o ganlyniad i unrhyw gynnydd mewn gwerth ardrethol yn dilyn y gwelliannau hynny. Caniateir y rhyddhad am gyfnod o hyd at 12 mis.

Swm y rhyddhad a chaniateir fydd yr ardrethi busnes trethadwy ychwanegol ar gyfer yr eiddo oherwydd y cynnydd yn y gwerth ardrethol y gellir ei briodoli i waith gwella cymwys.

Nid oes angen i fusnesau wneud cais am y rhyddhad hwn fel yr esbonnir isod. Caiff ei ychwanegu at y cyfrif yn awtomatig lle bo'n briodol.

Gosodwyd yr amodau a thelerau penodol ar gyfer y rhyddhad gan Lywodraeth Cymru a gellir dod o hyd i arweiniad mwy manwl ar ei wefan: Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Gwelliannau (Busnes Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Amodau cymhwysedd

Mae cymhwysedd ar gyfer y rhyddhad yn destun bodloni'r ddau amod:

  1. Mae'n rhaid i'r gwelliannau fodloni'r diffiniad o waith cymwys AC
  2. Mae'n rhaid bod yr eiddo wedi parhau i gael ei feddiannu gan yr un talwr ardrethi yn ystod y cyfnod ers i'r gwaith cymwys ddechrau

1. Mae'n rhaid i'r gwelliannau fodloni'r diffiniad o waith cymwys

Caiff hyn ei benderfynu gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB), sef sefydliad ar wahân i'r Cyngor sy'n gyfrifol am werthuso eiddo at ddibenion ardrethi busnes. Os bydd yr ASB yn fodlon bod y gwelliannau'n bodloni'r diffiniad o waith cymwys, bydd yn cyflwyno tystysgrif i'r Cyngor yn awtomatig a fydd yn cadarnhau faint o'r cynnydd yn y gwerth ardrethol sydd o ganlyniad i'r gwaith. Mae hyn yn golygu nad oes angen i fusnesau wneud cais am y rhyddhad hwn.

I fodloni'r diffiniad o waith cymwys, mae'n rhaid i'r gwelliannau arwain at o leiaf un o'r canlyniadau canlynol:

  • cynnydd ym maint yr adeilad neu'r lle defnyddiol mewnol y tu fewn iddo
  • gwelliannau i gyflwr corfforol yr eiddo, fel ychwanegu gwres, aerdymheru neu uchel-lawr
  • ychwanegu offer a pheiriannau ardretho arall

2. Mae'n rhaid bod yr eiddo wedi parhau i gael ei feddiannu gan yr un talwr ardrethi yn ystod y cyfnod ers i'r gwaith cymwys ddechrau

Mae'n rhaid bod yr un talwr ardrethi wedi meddiannu'r eiddo trwy gydol y cyfnod y gwnaed y gwaith ac yn ystod y cyfnod o ryddhad yn dilyn cwblhau'r gwaith.

Ar gyfer pa gyfnod fydd y rhyddhad yn gymwys?

Bydd y rhyddhad yn gymwys ar gyfer cyfnod o 12 mis o'r dyddiad y cwblhawyd y gwaith cymwys.

Mae'r cyfnod o ryddhad yn dod i ben 12 mis ar ôl cwblhau'r gwaith oni bai bod y talwr ardrethi cymwys yn gadael yr eiddo ar ddyddiad cynharach, yn yr achos hynny fydd y rhyddhad yn dod i ben pan fyddant yn gadael yr eiddo.

Close Dewis iaith