Dyma nhw! Enillwyr Gwobrau Chwaraeon Abertawe
Mae amrywiaeth eang o bobl a sefydliadau chwaraeon cymunedol sy'n perfformio'n dda wedi cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe 2023.
Cafwyd mwy na 100 o enwebiadau ar gyfer y cynllun a gynhelir gan Gyngor Abertawe - ac mae'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cynrychioli ystod eang o glybiau a gweithgareddau cymunedol.
Cyhoeddwyd yr enillwyr yn ystod digwyddiad gwobrwyo yn Neuadd Brangwyn (sylwer: nos Iau, 28 Mawrth), yr oedd mwy na 400 o bobl yn bresennol ynddo, gan gynnwys pobl bwysig ym myd chwaraeon.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae ein henillwyr - a'r rheini a gyrhaeddodd y rhestr fer - yn dangos bod Abertawe'n ddinas llawn pencampwyr chwaraeon.
"Roedd yn fraint gweld wynebau hapus y rheini a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, ac yn galonogol iawn gweld unigolion, timau a hyfforddwyr yn cael cydnabyddiaeth.
"Hoffai dîm chwaraeon ac iechyd y Cyngor ddiolch i bawb a oedd wedi enwebu eu pencampwyr chwaraeon ar gyfer 2023.
"Roedd yr enillwyr yn amrywio o wirfoddolwyr a hyfforddwyr a wnaeth weithio'n galed iawn y tu ôl i'r llenni, ac unigolion ymroddedig sy'n cyflawni'r canlyniad gorau yn eu camp. Hoffwn ddiolch i'r rheini a wnaeth gyflwyno enwebiadau."
Mae chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn chwarae rhan bwysig a chadarnhaol iawn yn iechyd a lles pobl a dyna pam, fel Cyngor, rydym yn parhau i fuddsoddi yn isadeiledd chwaraeon y ddinas gyda'n partneriaid, fel y gall cenedlaethau'r dyfodol gael mynediad cyfartal at gyfleusterau chwaraeon ar draws y ddinas.
Cynhaliwyd y noson wobrwyo mewn cydweithrediad â Freedom Leisure.
Gwobrau Chwaraeon Abertawe 2023
- Person Ifanc Ysbrydoledig y Flwyddyn a noddir gan ArvatoConnect - Jackson Tanner
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddir gan John Pye Auctions - Carl Bradley
- Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a noddir gan Chwaraeon Cymru - Andy Parkinson
- Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn a noddir gan Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe - Daniel Parker
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn - noddir gan Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Prifysgol Abertawe - Rory Johns
- Chwaraewraig Iau'r Flwyddyn - noddir gan Pure Football Abertawe - Libby Hale
- Tîm Ysgol y Flwyddyn a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe - Tîm Rygbi Hŷn Ysgol Gyfun Gŵyr
- Clwb neu Dîm Iau'r Flwyddyn a noddir gan EYST Cymru - Tîm dan 16 oed Clwb Rygbi Treforys
- Clwb neu Dîm Hŷn y Flwyddyn - noddir gan The Car Warehouse yn FRF Motors - Clwb Treiathlon Bro Tawe
- Annog Abertawe Actif a noddir gan St Modwen Homes - Nicky Nijjer
- Chwaraewr Iau'r Flwyddyn ag Anabledd - noddir gan Stowe Family Law - Caleb Alexander Morrison
- Chwaraewr y Flwyddyn ag Anabledd - noddir gan Nathaniel Cars - Ben Pritchard
- Chwaraewr y Flwyddyn a noddir gan McDonald's - Jac Morgan
- Cyfraniad am oes i Chwaraeon - Dean Mason
- Gwobr Llysgennad Aur Ifanc - Ysgol Gyfun Penyrheol, Ysgol yr Olchfa, Ysgol Gyfun Gellifedw, Ysgol Gyfun Treforys, Ysgol Tregŵyr
Mae Abertawe'n parhau i dynnu sylw at ei phencampwyr chwaraeon wrth i Gyfres Para Treiathlon y Byd 2024 ac Ironman 70.3 ddychwelyd eleni, ynghyd â ras 10k Bae Abertawe Admiral a hanner marathon Bae Abertawe.