Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut i gyrraedd Castell Ystumllwynarth

Gwybodaeth am deithio a pharcio ar gyfer Castell Ystumllwynarth.

How to find Oystermouth Castle

Mewn car

Dilynwch yr A4067 i'r Mwmbwls ac yna trowch i'r dde i fyny Heol Newton wrth y gylchfan fach ger y White Rose.  Mae'r castell hanner y ffordd i fyny Heol Newton ar yr ochr dde.

Gall Ystumllwynarth fod yn brysur iawn ym misoedd yr haf. Mae tri maes parcio ar waelod pentref Ystumllwynarth (ar Mumbles Road) ond os yw'r rhain yn llawn, gallwch roi cynnig ar un o feysydd parcio Underhill, sydd ar ben uchaf y pentref.

I gyrraedd meysydd parcio Underhill o Mumbles Road, trowch i fyny Newton Road pan welwch dafarn y White Rose ar y gornel. Parhewch i fyny Newton Road heibio i Marks & Spencer (ar y chwith) nes i chi gyrraedd cyffordd ffordd â goleuadau traffig. Fe welwch iard chwarae ysgol ar eich ochr dde ac eglwys ar y chwith.

  • I ddod o hyd i'r maes parcio, trowch i'r chwith heibio'r eglwys i Langland Road ac fe welwch y maes parcio tua 120 llath ar ochr dde'r ffordd. Mae'n cymryd 5 munud ar droed i gyrraedd y castell o fan yma.
  • I ddod o hyd i'r maes parcio am ddim, parhewch yn syth i fyny Newton Road, gyda'r caeau chwarae ar eich chwith ac ewch heibio'r fynwent ar y llaw dde. Ar ben y parc, cyn i'r tai ddechrau, fe welwch arwydd lle parcio ar y chwith. Trowch i mewn i'r ffordd gul ac mae'r maes parcio ymysg y coed. Mae'n cymryd 10 munud ar droed i gyrraedd y castell o fan yma.

Ychydig iawn o le parcio sydd ar Rodfa'r Castell, felly y dewis gorau yw defnyddio'r meysydd parcio talu ac arddangos ar hyd y glannau.

Meysydd parcio'r traeth a'r promenâd

Ar y bws

Mae bws rhif 2 i Newton yn mynd i fyny Heol Newton tuag at y castell - dewch oddi ar y bws yn y safle ger Canolfan Ostreme a cherddwch i fyny Rhodfa'r Castell.

Close Dewis iaith