Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut y bydd eich data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru

Mae'n ofynnol bod pob dysgwr sydd eisoes yn dysgu yn gweld Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, a'i fod yn cael ei ddangos yn ystod y broses ymrestru.

Cyflwyniad

Mae'r rhaglen ddysgu yr ydych ar fin ymrestru ar ei gyfer yn cael ei hariannu naill ai'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru (LlC) neu'n rhannol drwy weithrediadau a gymeradwyir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) (drwy Lywodraeth Cymru).

Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd yn rhaid i chi ddarparu data personol. Rydym yn dibynnu ar erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol. Mae hyn yn caniatáu i ni fodloni ein dyletswyddau cyfreithiol a gweinyddu a monitro'r cyllid a ddarperir gennym. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth categori arbennig, fel ethnigrwydd, bydd yn cael ei phrosesu am resymau diddordeb cyhoeddus sylweddol (o dan Erthygl 9(2)(g) a dibenion ystadegol (o dan Erthygl 9(2)(j). Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth categori arbennig, fel ethnigrwydd, bydd yn cael ei phrosesu gyda'ch cydsyniad chi: Hysbysiad preifatrwydd cofnod dysgu gydol oes Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych fel rhan o'ch cais am gyllid.

Os caiff eich rhaglen ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bydd eich darparwr dysgu yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol megis pasbort, slip cyflog diweddar neu dystysgrif cymhwyster. Cedwir copi o'r dystiolaeth hon gan eich darparwr dysgu at ddibenion archwilio gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a bydd sampl o dystiolaeth dysgwyr ar draws darparwyr yn cael ei hanfon i Lywodraeth Cymru.

At ba ddiben y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth?

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio eich data at ddibenion ariannu, cynllunio a datblygu polisi yn ogystal â monitro deilliannau dysgwyr (megis ennill cymwysterau, cynnydd dysgwyr a chyrchfannau).

Yn ychwanegol, bydd eich data yn cael eu defnyddio mewn ystadegau ac ymchwil swyddogol, gan gynnwys sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn cael effaith ar ddeilliannau addysgol dysgwyr yng Nghymru. Mae ein hadroddiadau ystadegau swyddogol yn rhoi darlun cyffredinol o ddysgwyr yng Nghymru, beth y maent yn eu hastudio, eu canlyniadau a'u cyrchfannau ar ôl iddynt adael. Er enghraifft, maent yn cynnwys, wybodaeth am batrymau o ran rhyw ac oedran dysgwyr a'r cymwysterau, pynciau a'r lefelau y maent yn eu hastudio. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o'r cyhoeddiadau hyn.

Fel rhan o ffrwd cyflogaeth newydd Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+), defnyddir data i bennu taliadau cymhorthdal cyfradd cyflog Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyflogaeth, er mwyn sicrhau bod y cyflog cywir yn cael ei dalu i'r cyfranogwr. Bydd data cyflogwyr hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi, monitro a phennu cyrchfan y cyfranogwyr hynny drwy gyflogaeth.

Bydd sefydliadau ymchwil hefyd yn defnyddio data dysgwyr ôl-16 er mwyn gwerthuso rhaglenni a pholisïau addysg yng Nghymru. Fel rhan o'r gwaith gwerthuso, efallai y byddant yn cynnal arolygon dysgwyr dewisol, a fydd yn asesu effaith rhaglen ar y dysgwr unigol yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol; er enghraifft, sefydlu faint o dâl y mae prentisiaid yn ei gael, sydd yn ei dro yn cyfrannu at ddatblygu polisi ar isafswm cyflog cenedlaethol.

Er mwyn i Lywodraeth Cymru asesu'r effaith y mae eu rhaglenni yn ei chael ar grwpiau o ddysgwyr penodol, byddwn yn cysylltu'ch data gyda chofnodion addysgol eraill a gedwir gennym, megis y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru a'r Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch. Rydym yn defnyddio hyn i'n helpu i ddeall cynnydd a deilliannau dysgwyr yng Nghymru, er mwyn llywio ein hymchwil, mesurau perfformiad a chyhoeddiadau ystadegol.  Efallai y byddwn yn rhannu hyn hefyd gydag ymchwilwyr a chyda'n partneriaid, gan gynnwys Estyn a Cymwysterau Cymru, er mwyn eu cynorthwyo i gynnal eu dadansoddiad nhw o'r data i lunio arolygiadau ac adolygiadau. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o'r data hyn yr ydym yn eu rhannu â'n partneriaid.

Am restr fanylach o sut y mae eich data yn cael eu defnyddio, cyfeiriwch at y Rhan dau/Fersiwn Lawn o'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu: Hysbysiad preifatrwydd cofnod dysgu gydol oes Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Pwy y mae Llywodraeth Cymru yn rhannu eich data â nhw a pham?

Ewch i: Hysbysiad preifatrwydd cofnod dysgu gydol oes Cymru (Yn agor ffenestr newydd) i weld y rhan dau/fersiwn lawn o'r hysbysiad preifatrwydd am esboniad llawn o bwy rydym yn rhnnu eich data a nhw a pham.

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data gallwch:

  • weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
  • ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu unrhyw achos o brosesu'r data, am resymau'n ymwneud â'ch sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyfyngu ar waith prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • gofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

 

Am ba mor hir y bydd Llywodraeth Cymru'n cadw eich data?
Y math o ddataCyfnod cadw dataDefnyddio'r data
Addysg bellac a dysgu oedolionBydd eich data'n cael eu dileu ar ol 10 mlyneddMae'n galluogi Llywodraeth Cymru i ddadansoddi data dysgwyr a chreu
adroddiadau dros gyfnod o amser. Bydd yr
adroddiadau hynny yn cael eu defnyddio i
helpu i lywio penderfyniadau ynghylch
polisïau neu ragweld cyllid yn y dyfodol. Os
caiff y dysgu ei ariannu gan Gronfa
Gymdeithasol Ewrop, cedwir data fel bod
modd eu gwirio a'u harchwilio. Yr Undeb
Ewropeaidd sy'n penderfynu ar y cyfnodau
amser ar gyfer cadw data.
Rhaglen Comisiynu PrentisiaethauBydd eich data'n cael eu dileu 10 mlynedd ar ol diwedd cyfnod y contract
Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+)Bydd eich data'n cael eu dileu ar ol 10 mlynedd

Cedwir eich data am gyfnod hirach at ddibenion ystadegol a dibenion ymchwil.

Manylion cyswllt

Wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

E-bostwich: swyddogdiogeludata@llyw.cymru

I gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

Ffon: 029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y Deyrnas Unedig).

Gwefan: ico.org.uk (Yn agor ffenestr newydd)

Hysbysu ynghylch newidiadau

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar Mawrth 2023 ac rydym yn ei adolygu'n gyson i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn gywir. Byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i'r defnydd a wnawn o'ch data drwy'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a'ch darparwr Tîm Dysgu Gydol Oes. Bydd pob achos o brosesu data gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol ym maes diogelu data.

Os hoffech beidio â chyflwyno eich data categori arbennig ar unrhyw adeg, dylech gysylltu â'ch darparwr dysgu a fydd yn diweddaru'ch cofnod Tîm Dysgu Gydol Oes.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Ebrill 2023