Sut ydw i'n pleidleisio?
Yn y DU, gallwch fwrw pleidlais mewn tair ffordd wahanol.
Mae gwefan Y Comisiwn Etholiadol yn esbonio beth yw'r rhain: Pleidleisio'n bersonol, trwy'r post & trwy ddirprwy.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu pleidleisio - Cofrestru i bleidleisio (gov.uk)
Os ydych yn fyfyriwr gallwch gofrestru yn eich prifysgol a'ch cyfeiriad cartref, ond gwnewch yn siŵr mai dim ond unwaith rydych yn pleidleisio.
Sylwer - Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy.
Mae'r newidiadau a nodir isod yn berthnasol i'r etholwyr hynny sy'n ystyried gwneud cais am bleidleisio drwy'r post neu benodi rhywun i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn ddirprwy.
ID Bleidleisio - Cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos cerdyn neu ddogfen adnabod (ID) sy'n cynnwys llun wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.