Mae angen ID ffotograffig er mwyn pleidleisio
Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer rhai etholiadau.
- Etholiadau y bydd arnoch angen ID ffotograffig ar eu cyfer
- Beth gallwch ei ddefnyddio fel ID ffotograffig
- Beth i'w wneud os nad oes gennych ID ffotograffig
- Rhagor o wybodaeth
Etholiadau y bydd arnoch angen ID ffotograffig ar eu cyfer
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- Is-etholiadau Senedd y DU
- Deisebau adalw
- Etholiadau cyffredinol Senedd y DU
Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau'r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.
Beth gallwch ei ddefnyddio fel ID ffotograffig
- pasbort y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad
- trwydded yrru'r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Gymanwlad
- rhai pasys teithio rhatach megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+
Gellir dod o hyd i restr lawn yn: Sut i bleidleisio: prawf adnabod ffotograffig angenrheidiol (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)
Bydd modd i bleidleiswyr ddefnyddio ID nad yw'n gyfredol os oes dal modd eu hadnabod o'u llun.
Beth i'w wneud os nad oes gennych ID ffotograffig
Bydd unrhyw un nad oes ganddynt ID a dderbynnir yn gallu gwneud cais am ID yn rhad ac am ddim (Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr) drwy fynd i: Cyflwynwch gais am ddull adnabod â llun i bleidleisio (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)