Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

5 Tachwedd 2025, 5pm i Faes Rygbi San Helen

Swansea Fireworks Display 2023

Swansea Fireworks Display 2023
 Ymunwch â ni ar Dachwedd 5ed wrth i ni ddychwelyd i San Helen ar gyfer arddangosfa tân gwyllt!

Byddwch yn barod am gyffro! Bydd Maes San Helen yn croesawu archarwyr ar gyfer Arddangosfa Tân Gwyllt Flynyddol Cyngor Abertawe - ac fe'ch gwahoddir i ymuno yn yr hwyl!

Mae'r tocynnau'n gwerthu'n gyflym, felly prynwch eich rhai chi nawr er mwyn cael noson o hwyl!

Perfformiadau:

  • Sesiwn ddawnsio Kpop Demons
  • Symudiadau/dawnsio Spiderman - sesiwn ryngweithiol
  • Symudiadau Marvel - perfformiad dawnsio Deadpool yn erbyn Wolverine
  • Rhagor i ddod!

Prisiau Tocynnau

Tocynnau yn dechrau o £3 yn unig:

Rhagor o wybodaeth (Yn agor ffenestr newydd)
Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe Teithio a Pharcio (Yn agor ffenestr newydd)
Cwestiynau Cyffredin am Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

Blaenswm

  • Oedolion: £5
  • Plant/Consesiwn: £4
  • PTL: £3*
  • Teulu o 4 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 2 gonsesiwn): £12
  • Teulu o 5 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 3 gonsesiwn): £14

Ar y dydd

  • Oedolion: £6
  • Plant/Consesiwn: £5
  • PTL: £4*
  • Teulu o 4 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 2 gonsesiwn): £17
  • Teulu o 5 (yn cynnwys 2 docyn pris llawn a 3 gonsesiwn): £19

Bydd prisiau i deuluoedd o 4 (2 oedolyn a 2 blentyn) a theuluoedd o 5 (2 oedolyn a 3 phlentyn) yn cael eu gostwng yn awtomatig i'r pris i deuluoedd wrth y ddesg dalu.

*Bydd angen dangos cardiau Pasbort i Hamdden ar y noson

Bydd tocynnau ar-lein ar gael tan hanner nos ar nos Fawrth 4 Tachwedd - bydd yr opsiwn i dalu wrth y giât ar gael ar y diwrnod

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Hydref 2025