Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect amddiffynfeydd môr yn cyrraedd carreg filltir allweddol - ar gyfer diogelwch a natur

​​​​​​​Mae prosiect proffil uchel Cyngor Abertawe i gryfhau a gwella amddiffynfeydd môr y Mwmbwls wedi cyrraedd carreg filltir newydd.

Textured Wall Panels in Place

Textured Wall Panels in Place

Mae contractwyr wedi rhoi'r paneli concrit mawr cyntaf yn eu lle sy'n ffurfio arwyneb newydd yr adran fertigol 500m o hyd.

Erbyn diwedd y prosiect y flwyddyn nesaf, bydd bron 100 o baneli yn ochrau'ch gilydd, a phob un yn mesur 5m o hyd wrth 4.5 m o uchder.

Byddant yn ymestyn o lefel y prom i lawr i'r traeth ac o ogledd maes parcio Sgwâr Ystumllwynarth i o gwmpas Clwb Bowlio'r Mwmbwls.

Mae wynebau gweadog y paneli - a ddyluniwyd fel rhan o brosiect Prifysgol Abertawe i annog bywyd môr iach - yn cael eu creu drwy ddefnyddio mowld mawr.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Mae castio'r paneli cyntaf yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect hwn.

"Byddant yn amddiffyn y gymuned am ddegawdau lawer i ddod a - diolch i'r gorffeniad gweadog deniadol - byddant yn annog bioamrywiaeth.

"Fel rhan o'r prosiect hwn rydym hefyd yn uwchraddio ardal ogwyddog y wal. Bydd amddiffynfeydd eilaidd hefyd ar ffurf waliau isel ac argloddiau glaswelltog.

"Bydd llawer o wyrddni a chedwir y coed. Bydd y gwaith yn darparu cyfle i wella rhannau eraill o ardal y prom. Bydd cannoedd o leoedd parcio'n aros yn agos i lan môr.

"Rydym yn diolch i bawb yn y gymuned leol, gan gynnwys busnesau ac ymwelwyr â'r Mwmbwls am eu dealltwriaeth ar yr adeg hon o newid."

"Mae ein contractwyr yn parhau i wneud popeth y gallant i leihau tarfu."

Dywedodd Cyfarwyddwr Adrannol Knights Brown,Andrew Eilbeck: "Mae ein tîm yn y Mwmbwls yn parhau i weithio'n galed i ddarparu'r gwelliant gwych hwn a bydd yn parhau i wneud hynny drwy'r tywydd gaeafol ac wedi hynny. 

"Diolchwn i'r gymuned gyfan am eu hymateb cadarnhaol a'r anogaeth maent yn parhau i roi i ni."

Mae cartrefi a busnesau o gwmpas y Mwmbwls yn cael eu bygwth yn gynyddol gan lefelau môr cynyddol a achosir gan newid yn yr hinsawdd.

Cyflwynir y prosiect amddiffynfeydd môr gan Knights Brown ar ran y cyngor. Caiff ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru.

Mae barn a syniadau'r cyhoedd, busnesau ac eraill wedi helpu i lunio'r prosiect - ac maent yn parhau i wneud hynny.

Rhagor: 

Llun: Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stephens wrth y rhan newydd o forglawdd gweadog y Mwmbwls gyda Tim Waller, rheolwr adrannol y prif gontractwr, Knights Brown.

 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Tachwedd 2023