Toglo gwelededd dewislen symudol

Trawsnewid Trefi: Grantiau Creu Lleoedd

Lansiwyd Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2020 i fynd i'r afael â'r dirywiad mewn canol trefi a dinasoedd a'r gostyngiad yn y galw am fanwerthu ar y stryd fawr.

Ffocws y rhaglen yw twf cynaliadwy ein trefi a'n dinasoedd, a'u trawsnewid yn lleoedd ar gyfer byw, gweithio, dysgu a hamdden.  

Caiff y prosiectau a ariennir drwy'r Rhaglen Trawsnewid Trefi eu lleoli mewn canol trefi a dinasoedd. Bydd y cynlluniau yn canolbwyntio ar yr amgylchedd adeiledig yn gyffredinol a gallent gynnwys ymyriadau fel adnewyddu ac ail-bwrpasu adeiladau gwag ac adfeiliedig; prosiectau adeiladau newydd; gwella bioamrywiaeth drwy isadeiledd gwyrdd; a gwella mannau cyhoeddus. Diben y gwaith yw rhoi hwb i'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael mewn trefi, creu mannau gweithio'n hyblyg a lleoedd i fyw a chynyddu mynediad at wasanaethau a hamdden.

Unedau preswyl mewn canol trefi

Trawsnewid arwynebedd llawr gwag ar loriau uwch yn llety preswyl newydd. Y gofynion lleiaf ar gyfer pob cynllun yw 1 fflat hunangynhwysol gydag 1 ystafell wely.

Disgwylir i gynlluniau fod yn gymysgedd o unedau un ystafell wely a dwy ystafell wely gyda'r gymhareb  yn cael ei phennu gan gynllun yr adeilad a'r caniatâd cynllunio.

Dylai cynlluniau gydymffurfio â'r isafswm arwynebedd llawr fel a argymhellwyd yn y fersiwn ddiweddaraf o Safonau Ansawdd Tai Cymru, sydd fel a ganlyn ar hyn o bryd:

  1. 50m sgwâr i bob fflat un ystafell wely
  2. 70m sgwâr i bob fflat dwy ystafell wely

Nid yw llety Air BnB, tai cymdeithasol a llety myfyrwyr (fflatiau un ystafell a fflatiau stiwdio) yn gymwys am gyllid grant.

Grantiau Gwella Eiddo Masnachol

Mae'r Grant Gwella Eiddo ar gael i ddeiliaid a pherchnogion adeiladau masnachol o fewn canol trefi. Diben y cyllid yw gwella tu blaenau adeiladau ynghyd ag uwchraddio arwynebedd llawr masnachol gwag er mwyn ei ailddefnyddio er lles busnes.

Rhaid i'r arwynebedd llawr newydd / wedi'i uwchraddio fod at ddefnydd busnes, a phenderfynir ar bob cynllun yn ôl ei rinweddau unigol. Rhoddir ystyriaeth i ddefnyddiau swyddfa, hamdden annibynnol, manwerthu a bwyd a diod. Rhoddir ystyriaeth i gynlluniau defnydd cymysg hefyd.

Caiff swyddfeydd neu eiddo masnachol uwchben unedau manwerthu hefyd eu hystyried ar gyfer y cymorth.

Gwaith allanol

Gall gwaith allanol i'r adeilad gynnwys gwaith y bernir ei fod yn angenrheidiol ar gyfer cyfanrwydd saernïol yr eiddo. Gall eitemau gynnwys:

  • blaen siopau
  • arwyddion
  • drysau a ffenestri
  • goleuadau allanol
  • toeon a simneiau
  • cafnau dwr ac ati (cafnau a pheipiau glaw)
  • rendro, glanhau cerrig ac atgyweiriadau, ail-bwyntio 
  • gwaith strwythurol

Gwaith mewnol

Gall gwaith mewnol i'r adeilad  gynnwys yr holl waith gweladwy neu adeileddol sy'n angenrheidiol er mwyn cwblhau'r prosiect yn unol â'r Rheoliadau Adeiladu. Gallai hyn gynnwys:

  • drysau a ffenestri
  • gwell hygyrchedd 
  • waliau, nenfydau, goleuadau
  • mesurau effeithlonrwydd ynni os ydynt yn rhan o'r cynllun cyffredinol
  • cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
  • cyfleusterau lles (e.e. ymolchfa a chyfleusterau glanhau hanfodol yn unig) 
  • gwaith adeileddol 

Adeiladau newydd

Gallai arwynebedd llawr masnachol newydd fod yn gymwys, lle nodwyd bod angen lleol am y ddarpariaeth hon.

Isadeiledd gwyrdd

Darparu prosiectau isadeiledd gwyrdd a bioamrywiaeth mewn canol trefi. Yn benodol ond heb eu cyfyngu i'r canlynol:

  • waliau gwyrdd
  • toeon gwyrdd
  • gerddi glaw
  • gwyrddu
  • parciau poced

Ni fydd y cymorth hwn yn cyfrannu at gostau cynnal a chadw parhaus yn y blynyddoedd ariannol yn y dyfodol.

Cymorth masnachu allanol canol trefi

Darparu ardaloedd eistedd awyr agored, planwyr, gorchuddion, mannau gweini ac adeiladu canopïau. Mae'r cymorth hwn yn unol â'r grant ymateb i COVID-19 2020/21.

Cynlluniau amlennu blaenau siopau

Gwella blaenau siopau o'r tu allan heb wneud unrhyw newidiadau na gwaith  ailddatblygu'n fewnol.

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru'ch diddordeb ar gyfer unrhyw un o'r grantiau hyn, cysylltwch â'n tîm cymorth busnes.