Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer ysgolion arbennig yn Abertawe - cwestiynau cyffredin

Cynhelir y cyfnod ymgynghori o 9 Hydref 2023 tan 24 Tachwedd 2023.

Pam mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud?
Pryd bydd hyn yn digwydd?
Ym mhle bydd y safle newydd?
Sut bydd yr ysgol newydd o fudd i ddisgyblion?
Pam mae'r cyngor yn bwriadu uno'r ysgolion cyn symud i'r ysgol newydd?
Sut bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer anghenion gwahanol disgyblion?
Pa gefnogaeth fydd yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w paratoi ar gyfer pontio i'r ysgol newydd?
Beth fydd y gost ac o ble y daw'r arian?
A fydd gwisg ysgol newydd?
Beth fydd enw'r ysgol newydd?
Sut yr ymghynghorir â'r disgyblion?
Sut gallaf fynegi fy marn?
 

Pam mae'r cynnig hwn yn cael ei wneud?

Mae angen mwy o leoedd ysgolion arbennig arnom, ac rydym am wella'r cyfleusterau i'r holl ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion arbennig i roi'r addysg orau bosib iddynt.

Pryd bydd hyn yn digwydd?

Byddwn yn ymgynghori ar y cynnig hwn rhwng 9 Hydref 2023 a 24 Tachwedd 2023, ac os caiff ei gymeradwyo, rydym yn bwriadu uno'r ddwy ysgol yn 2025 ar safleoedd sy'n bodoli ac agor yr adeilad newydd yn 2028 (yr amser agor tybiedig ar hyn o bryd).

Ym mhle bydd y safle newydd?

Bydd yr ysgol newydd yn agos i safle presennol Pen-y-Bryn Mynydd Garnlwyd Road, Treforys.

Sut bydd yr ysgol newydd o fudd i ddisgyblion?

Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ysgol ar gyfer yr 21ain ganrif, wedi'u dylunio'n arbennig i ddiwallu anghenion plant ag anghenion addysgol cymhleth a dwys. Bydd amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored gwell, a bydd yn cynnwys cyfleusterau fel ystafelloedd synhwyraidd, ystafelloedd therapi arbenigol a chyfleuster pwyll hydrotherapi.

Pam mae'r cyngor yn bwriadu uno'r ysgolion cyn symud i'r ysgol newydd?

Mae llawer o fanteision i uno'r ddwy ysgol cyn symud i'r ysgol newydd.  Bydd yn gwneud y broses o bontio i'r ysgol newydd yn rhwyddach i ddysgwyr oherwydd bydd y ddwy ysgol yn gallu dechrau gweithredu fel un, gydag un ethos ysgol gyfan a pholisïau a gweithdrefnau a rennir. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion a staff rannu cyfleusterau ac adnoddau.

Sut bydd yr ysgol yn darparu ar gyfer anghenion gwahanol disgyblion?

Byddwn yn gwrando ar farn staff, dysgwyr a theuluoedd i ddeall beth sydd ei angen ar gyfer pob un o'n dysgwyr. Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfle i ddylunio lleoedd a chynnwys adnoddau sy'n diwallu ystod o anghenion gwahanol ac sy'n gallu bod yn hyblyg ac yn ymatebol er mwyn addasu i anghenion newidiol dysgwyr.

Pa gefnogaeth fydd yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w paratoi ar gyfer pontio i'r ysgol newydd?

Bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i ddisgyblion i'w helpu i baratoi ar gyfer symud i'w hadeilad ysgol newydd a bydd hyn yn cynnwys sesiynau dan arweiniad athrawon, diwrnodau pontio ac ymweliadau â'r safle newydd. Ymgynghorir â disgyblion drwy'r holl broses a gofynnir iddynt am eu syniadau ynghylch dyluniad yr ysgol. 

Beth fydd y gost ac o ble y daw'r arian?

Tua £43.6 miliwn - gyda 75% o'r gost yn cael ei hariannu drwy Lywodraeth Cymru a 25% gan y cyngor.

A fydd gwisg ysgol newydd?

Bydd - y corff llywodraethu dros dro fydd yn penderfynu ar hyn, byddant yn ystyried barn a syniadau'r disgyblion yn ei chylch.

Beth fydd enw'r ysgol newydd?

Y corff llywodraethu dros dro fydd yn penderfynu ar hyn, a byddant yn ystyried barn a syniadau'r disgyblion yn ei gylch.

Sut yr ymgynghorir â'r disgyblion?

Bydd cyfle i ddisgyblion y ddwy ysgol gymryd rhan yn y broses ymgynghori yn ystod sesiynau ymgynghori dosbarth a gynhelir yn yr ysgolion gyda chymorth gan eu hathrawon.  Bydd yr adborth gan ddisgyblion yn ystod y sesiynau hyn yn cael ei goladu a'i ystyried.  Mae papur ymgynghori â disgyblion, sy'n amlinellu'r cynnig mewn fformat syml, hefyd ar gael ac mae'n cynnwys slip ymateb disgybl y gallant ei lenwi a'i anfon os ydynt yn dymuno.

Gall disgyblion gyrchu arolwg ar-lein drwy ddilyn y ddolen ganlynol: 

Ymgynghorir hefyd â chynghorau disgyblion ysgol a bydd adborth ganddynt hwy yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad ymgynghori.

Sut gallaf fynegi fy marn?

Cynhelir yr ymgynghoriad rhwng 9 Hydref a 24 Tachwedd. Mae'r ddogfen ymgynghori lawn i'w chael ar y wefan ac mae'n cynnwys gwybodaeth am yr holl ffyrdd y gallwch fynegi eich barn wrthym , mynd i gyfarfod ymgynghori neu ysgrifennu / anfon e-bost atom.

Gallwch hefyd ofyn am gopi caled o'r papur ymgynghori gan yr ysgol neu drwy e-bostio trefniadaethysgolion@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith