Datganiad ar gyfer Ymchwilio i Ddigartrefedd Bwriadol yn Ninas a Sir Abertawe
Pan fo rhywun sy'n gymwys am help o dan ddarpariaethau digartrefedd Deddf Tai (Cymru) 2014, mewn perygl o ddigartrefedd, mae'n ofynnol i'r cyngor gymryd pob cam rhesymol i gadw'r aelwyd honno gyda'i gilydd yn ei chartref, os yw'n addas.
Os nad yw hyn yn bosibl, mae dyletswydd gyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i'w helpu i ddod o hyd i rywle arall i fyw. Mae'r ddyletswydd hon yn parhau am hyd at 56 o ddyddiau.
Os yw rhywun yn ddigartref o hyd ar ôl i'r dyletswyddau hyn ddod i ben, bydd y cyngor yn ystyried a yw rhagor o ddyletswyddau tai'n ddyledus. Bydd hyn yn ystyried a yw'r aelwyd yn bodloni diffiniad categori 'angen blaenoriaeth' yn ôl Adran 70 y Ddeddf (Yn agor ffenestr newydd).
Bydd y cyngor hefyd yn ystyried y rhesymau pam mae rhywun yn ddigartref. Efallai y byddwn yn penderfynu bod rhywun yn ddigartref yn fwriadol os yw'r digartrefedd o ganlyniad i wneud (neu beidio â gwneud) rhywbeth yn fwriadol ac nid oes rheswm da arall dros fod yn ddigartref. Er enghraifft, dyledion rhent y gallai'r aelwyd fod wedi'u talu.
Mae penderfyniadau digartrefedd bwriadol yn eithriadol o brin. Ar gyfartaledd, ceir bod llai nag 1% o'r aelwydydd digartref sy'n ymddangos yn Abertawe'n ddigartref yn fwriadol. Mae'r ffigur hwn yn cael ei fonitro'n flynyddol fel rhan o adolygiad o
ddigartrefedd yn Abertawe. Nid yw penderfyniad ar hyn yn cael ei wneud yn ysgafn ac mae'n digwydd pan nad oes dewis arall yn unig.
Fodd bynnag, mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno cynlluniau i ddiddymu'r pŵer i ymchwilio i fwriad yn y dyfodol ar gyfer rhai categorïau angen blaenoriaeth. Yn ôl y Ddeddf, mae hefyd yn ofynnol i'r cynghorau gyhoeddi eu datganiad ynghylch ymchwiliadau digartrefedd bwriadol.
Datganiad am gadw'r pŵer i ymchwilio i fwriad
Mae'r cyngor yn bwriadu parhau i ymchwilio i fwriad ar gyfer yr holl aelwydydd digartref sydd mewn un o'r categorïau angen blaenoriaeth a restrwyd yn y Ddeddf a bydd yn parhau i wneud hyn nes i Lywodraeth Cymru dynnu'r pŵer yn ôl neu nes i'r
cyngor benderfynu ailystyried pa grwpiau i'w cynnwys yn yr ymchwiliadau hyn. Y prif reswm am yr ymagwedd hon yw sicrhau, i'r nifer bach iawn o aelwydydd y ceir eu bod yn ddigartref yn fwriadol, fod posibilrwydd bod yn ddigartref yn fwriadol yn atal ymddygiadau anghyfrifol a bwriadol posibl a allai arwain at ddigartrefedd.
Pan fo aelwyd yn ddigartref yn fwriadol, mae'n ofynnol i'r cyngor ddarparu llety dros dro am 'gyfnod rhesymol'. Y cyngor sy'n penderfynu beth sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau, ond mae'n rhaid bod am o leiaf 56 o ddyddiau o'r adeg y mae'r aelwyd yn ddigartref. Disgwylir y byddai hyn yn gyfnod rhesymol i'r aelwyd honno ddod o hyd i gartref arall.
Wrth benderfynu bod rhywun yn ddigartref yn fwriadol mae'r cyngor yn deall y gall hyn greu anawsterau iddynt ddod o hyd i rywle arall i fyw dros dro ac yn barhaol. Felly, mae'r cyngor ond yn bwriadu cymryd penderfyniad digartrefedd bwriadol ar ôl cymryd pob cam rhesymol i atal a lliniaru'r digartrefedd ac os nad oes rheswm da arall am y digartrefedd.
Os ydych am wybod mwy am Ddeddf Tai (Cymru) 2014, y pŵer i ymchwilio i fwriad, neu'r gwasanaethau i helpu i atal a datrys digartrefedd yn Abertawe, ffoniwch Opsiynau Tai ar 01792 533100.