Toglo gwelededd dewislen symudol

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol - Hawdd ei Ddeall

Ein cynllun ar gyfer sut y byddwn ni yn cadw pobl yn ddiogel rhwng 2023 a 2026. Mae'r ddogfen yma yn fersiwn hawdd ei ddeall o 'Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Abertawe 2023-2026'.

Dyma ddogfen hawdd ei deall. Ond efallai y byddwch chi angen i'w darllen. Gofynnwch i rywun rydych chi'n ei adnabod i'ch helpu.

Lle mae'r ddogfen yn dweud ni, mae hyn yn meddwl Cyngor Abertawe a'n partneriaid. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: VAWDASV@swansea.gov.uk

Cynnwys

Beth ydy'r cynllun yma
Beth rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd
Am y materion yma yng Nghymru a'r gyfraith
Beth mae Abertawe wedi bod yn ei wneud yn barod
Geiriau anodd
Cysylltiadau defnyddiol

 

Beth ydy'r cynllun yma

Cynllun ydy hwn sydd yn dweud beth fyddwn ni yn ei wneud rhwng 2023 a 2026 i gefnogi pobl mae'r pethau yma yn effeithio arnyn nhw:

  • Trais yn erbyn menywod
  • Cam-drin domestig
  • Trais rhywiol

Trais yn erbyn menywod ydy unrhyw fath o ymddygiad sy'n niweidio menywod a merched.

Trais yn erbyn menywod mae hyn yn meddwl pethau fel:

  • Anffurfio organau cenhedlu benywaidd. Dyma pan fydd rhannau preifat merch yn cael eu torri neu eu newid.
  • Femicide. Dyma pryd mae menyw yn cael ei lladd gan ei phartner, ei chyn-bartner neu aelod o'i theulu.
  • Gorfodi erthyliad. Mae hyn yn cael ei wneud i ddod â beichiogrwydd iach i ben pan nad ydy hyn yn rhywbeth y mae'r fenyw ei eisiau.

Cam-drin domestig ydy unrhyw ymddygiad sy'n achosi niwed i rywun sy'n cael ei wneud gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu.

Mae cam-drin domestig yn meddwl pethau fel:

  • Cam-drin corfforol. Dyma pan fydd rhywun yn brifo eich corff. Mae'n meddwl taro, dyrnu, gwthio, crafu, tagu.
  • Cam-drin ariannol. Dyma pan mae rhywun yn cymryd eich arian heb i chi wybod neu gytuno iddo. Efallai y byddan nhw yn cymryd cyfrifoldeb am eich arian a'i ddefnyddio drostyn nhw eu hunain. Neu pedio â gadael i chi gael eich arian eich hun.
  • Cam-drin rhywiol. Dyma wiehtred rhyw sydd yn cael ei wneud i rywun pan nad ydyn nhw yn cytuno iddi.
  • Cam-drin emosiynol. Dyma ymddygiad sy'n gwneud i chi deimlo'n ofidus ac yn ddryslyd.

Mae trais rhywiol yn gallu digwydd i unrhyw un. Mae'n weithred rhyw sydd yn cael ei wneud i rywun pan nad ydyn nhw'n cytuno iddi. Mae'n erbyn y gyfraith.

Mae trais rhywiol yn meddwl:

  • Trais. Dyma weithred rywiol sydd yn cael ei wneud i rywun yn erbyn eu hewyllys. Mae'n erbyn y gyfraith. Fel arfer, mae'n meddwl bod rhywbeth yn cael ei roi y tu mewn i chi. Fel pidyn i mewn i fagina neu anws. Neu wrthrych yn y fagina neu'r anws.
  • Ymosodiad rhywiol. Mae hyn yn meddwl cyffwrdd â rhywun mewn ffordd rywiol neu'n gwneud gweithred rywiol yn erbyn eu hewyllys. Mae'n erbyn y gyfraith.
  • Cam-drin Plant yn Rhywiol. Dyma pryd mae plentyn yn cael ei orfodi i wneud pethau rhywol gyda rhywun. Mae'n gallu meddwl cyffwrdd a rhyw. Neu bethau fel gwneud i blentyn wylio rhyw. Neu ofyn iddyn nhw ddangos eu corff.
  • Aflonyddu rhywiol. Dyma pryd mae rhywun yn dod atoch chi a dyddych chi ddim eisiau iddyn nhw wneud hynny. Efallai y byddan nhw'n siarad â chi am bethau rhyw. Maen nhw'n ei wneud dro ar ôl tro ac mae'n eich cynhyrfu.

Ar gyfer gweddill y cynllun hwn rydyn ni yn mynd i ddefnyddio'r llythrennau VAWDASV yn fyr. Maen nhw yn meddwl:

VAW - Trais yn erbyn Menywod

DA - Cam-drin Domestig

SV - Trais Rhywiol

Mae dros 2 filiwn o oedolion yn dioddef cam-drin domestig yn y DU bob blwyddyn.

Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ferched. Ond mae hefyd yn digwydd i ddynion.

Mae'n cael effaith enfawr ar fywydau pobl ac mae'n effeithio ar bobl mewn sawl ffordd wahanol.

Mae hefyd yn achosi i bobl golli eu hawliau dynol.

Rydyn ni eisiau cefnogi menywod a dynion sydd yn cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.

Rydyn ni wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill i wneud y cynllun yma.

Fe fyddwn ni yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gwasanaethau a'r help maen nhw angen i ddelio gyda'r materion hyn.

Ac i wneud yn siŵr bod y rhai sy'n achosi'r niwed yn cael eu dwyn o flaen en gwell.

Mae hyn yn meddwl gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Catell-nedd Port Talbot.

Beth rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd

Rydyn ni eisiau i bawb sy'n byw yn Abertawe fod yn ddiogel, yn hapus ac yn iach.

Rydyn ni eisiau iddyn nhw fod yn rhydd o bob math o gamdriniaeth.

Dyma rai o'r prif bethau rydyn ni eisiau eu gwneud:

  • Gwrando ar bobl.
  • Rhoi'r gefnogaeth gywir i bobl ar yr amser iawn.
  • Gweithio gyda'r teulu cyfan pan fydd angen.
  • Gweithio gyda sefydliadau eraill yn well.
  • Ceisio stopio problemau rhag mynd yn waeth.
  • Gwneud yn siŵr bod gan bawb fynediad cyfartal i'r gwasanaethau maen nhw eu hangen.
  • Helpu bobl i ddeall y materion yma yn well.
  • Delio gyda'r rhai sy'n achosi'r cam-drin a ceisio helpu i newid eu hymddygiad.
  • Helpu i wneud yn siŵr bod VAWDASV yn cael ei adrodd mwy.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cefnogi i ddelio â thrawma.

Am y materion yma yng Nghymru a'r gyfraith

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o waith wedi'i wneud yng Nghymru i wella gwasanaethau sy'n delio â VAWDASV.

Yn 2015 daeth cyfraith allan yng Nghymru o'r enw Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Roedd y ddeddf yma yn gwneud yn siŵr bod cynghorau lleol a byrddau iechyd yn cydweithio i wneud yn siŵr bod gwasanaethau da ar gael i gefnogi a diogelu pobl ym mhob ardal yng Nghymru.

Mae VAWDASV hefyd yn cael ei drafod mewn nifer o ddeddfau eraill yng Nghymru.

Ac mae gan nifer o sefydliadau eraill gynlluniau am y peth. Er enghraifft, Heddlu De Cymru a Llywodraeth Cymru.

Beth mae Abertawe wedi bod yn ei wneud yn barod

Mae gan Abertawe lawer o wasanaethau i gefnogi pobl sy'n profi VAWDASV.

Dyma rai enghreifftiau o'r gwasanaethau:

Gweithio gyda theuluoedd a stopio pethau rhag mynd yn waeth.

Er enghraifft, stopio plant rhag cael eu symud o'u teuluoedd. Fe fyddai hyn yn cael ei ystyried yn waith atal.

Enghraifft arall o waith atal ydy ein rhaglen hyfforddi 12 wythnos. Er enghraifft, pobl sy'n achosi VAWDASV i ddysgu ffyrdd newydd o ymddwyn a phrofi eu bod wedi newid.

Mae gennym ni dîm sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi profi, neu sydd mewn perygl o bethau fel:

  • Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant - mae hyn yn meddwl manteisio ar blant i wneud iddyn nhw wneud gweithredoedd rhywiol.
  • Masnachu - mae hyn yn meddwl bod pobl yn cael eu symud o un lle neu wlad i'r llall a'u gorfodi i wneud pethau nad ydyn nhw am eu gwneud.
  • Mathau eraill o gam-drin neu ymddygiad niweidiol.

Rydyn ni yn cynnal hyfforddiant am berthnasoedd iach i bobl sydd wedi profi VAWDASV.

Mae meddygon teulu hefyd wedi cael eu hyfforddi i gefnogi pobl gyda'r materion yma.

Mae Cymorth i Fenywod Abertawe, CALAN DVS, BAWSO a Stori yn cefnogi menywod a phlant sy'n profi VAWDASV.

Mae New Pathways yn cefnogi dioddefwyr Trais Rhywiol a Cham-drin Rhywiol.

Rydyn ni wedi cefnogi tai ar gyfer menywod a phlant sy'n profi VAWDASV. Maen nhw'n gallu eu defnyddio am ychydig nosweithiau'r wythnos. Neu aros nes ein bod wedi dod o hyd i gartref diogel newydd iddyn nhw.

Rydyn ni yn cynnig cefnogaeth i blant yn unig. Mae gennym ni hefyd nifer o wasanaethau cymorth eraill.

Rhwng 2021 a 2022 fe wnaeth gwasanaethau VAWDASV ar draws Abertawe roi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i dros 10,000 o bobl.

Rydyn ni hefyd wedi gofyn i bobl sy'n profi VAWDASV beth maen nhw'n feddwl am y gwasanaethau a beth sydd ei angen.

Mae'n bwysig iawn cydnabod bod pobl sy'n profi VAWDASV yn arbenigwr. Rhaid gwrando arnyn nhw wrth feddwl am wasanaethau.

Mae Cymorth i Fenywod Abertawe hefyd yn rhedeg y Prosiect Cyd-gynhyrchu.

Mae'r prosiect yma yn gwneud yn siŵr bod y menywod sy'n profi VAWDASV yn penderfynu sut y dylid rhedeg y gwasanaeth. Hefyd, pa weithgareddau y dylen nhw eu cael.

Ein cynlluniau ar gyfer 2023 i 2026

Mae ein cynllun yn canolbwyntio ar 7 prif faes.

1. Rydyn ni eisiau i bobl ddeall VAWDASV yn well

Mae gennym ni dîm sy'n gwneud yn siŵr bod pobl yn dysgu ac yn deall y materion.

Maen nhw yn ceisio codi ymwybyddiaeth am:

  • Ein gwasanaethau.
  • Sut mae VAWDASV yn effeithio ar bobl.

Mae'n bwysig iawn bod cymunedau'n cydnabod ac yn deall y materion. Oherwydd maen nhw'n gallu cefnogi pobl hefyd

Rhai o'r pethau y byddwn ni yn eu gwneud ydy:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth pobl gan ddefnyddio'r cyfryngau a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn meddwl pethau fel Facebook a Twitter.
  • Rhedeg rhaglenni perthynas iach a hyfforddiant arall.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am y gwasanaethau arbennig sydd gennym.
  • Helpu grwpiau bregus i ddeall y materion sy'n ymwneud â VAWDASV. Grwpiau bregus ydy'r rhai sydd mewn pergyl o niwed. Mae'n meddwl pobl anabl, pobl o wledydd neu ddiwylliannau eraill a gwpiau eraill.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau yn cael dweud eu dweud ar sut maen nhw'n cael eu rhedeg.
  • Newid agweddau am aflonyddu yn y gweithle - aflonyddu yn y gwaith ydy pan fydd rhywun yn eich gweithle yn parhau i weithredu mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo'n ofidus, yn ofnus neu dan fygythiad.
  • Fe fyddwn ni yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

2. Gwneud yn siŵr bod plant yn deall pwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach

Mae llawer o waith yn digwydd yn Abertawe yn barod i helpu i wneud yn siŵr bod plant yn gwybod sut beth ydy perthynas ymosodol.

Rhai o'r pethau y byddwn ni yn eu gwneud ydy:

  • Gwneud yn siŵr bod plant yn cael dysgu am VAWDASV ym mhob lleoliad addysg.
  • Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed.
  • Gwneud yn siŵr bod staff ysgol yn deall risgiau i blant yn ymwneud â cham-drin plant yn rhywiol a materion eraill.
  • Gwneud yn siŵr bod plant yn cael yr help maen nhw ei angen.

3. Gwneud yn siŵr bod y rhai sy'n achosi ymddygiad camdriniol yn cael eu dal yn gyfrifol

Fe fyddwn ni bob amser yn ceisio lleihau'r risg i bobl sy'n profi VAWDASV a'u cadw'n ddiogel.

Mae nifer o wasanaethau yn Abertawe sy'n cefnogi'r rhai sy'n achosi camdriniaeth i newid eu hymddygiad.

Mae'r system cyfiawnder troseddol hefyd yn delio â nhw - mae hyn yn bethau fel yr heddlu a'r llysoedd.

Mae angen cefnogi pobl sy'n achosi cam-driniaeth yn gynnar.

Dyma rai o'r pethau rydyn ni'n mynd i'w gwneud:

  • Fe fyddwn ni yn cael mwy o wasanaethau yn gweithio gyda'r rhai sy'n achosi camdriniaeth ac yn ceisio newid ymddygiad. Gan gynnwys gweithio gyda grwpiau neu bobl benodol. Er enghraifft, menywod yn unig neu bobl ag anghenion dysgu ychwanegol.
  • Gweithio'n agos gyda'r Heddlu a Gwasanaethau Prawf.
  • Edrych ar fwy o opsiynau ar gyfer sut i ymateb i bob math o VAWDASV.
  • Gweithio'n dda gyda sefydliadau eraill.
  • Rhoi diogelwch dioddefwyr yn gyntaf.
  • Pan fydd pobl sy'n achosi camdriniaeth yn dod allan o'r carchar, fe fyddwn ni yn gweithio gyda sefydliadau eraill i helpu i'w stopio rhag achosi camdriniaeth eto.

4. Ceisio stopio camdriniaeth rhag digwydd a gweithio gyda phobl pan fyddan nhw yn dangos arwyddion cynnar o ymddygiad camdriniol

Mae stopio trais a chymryd rhan mor gynnar â phosibl i'w stopio yn bwysig iawn i'n gwaith.

Dyna pam ei bod yn bwysig i wasanaethau gydnabod camdriniaeth ac ymateb i bryderon yn gynnar.

Dyma rai o'r pethau rydyn ni'n mynd i'w gwneud:

  • Gwneud yn siŵr bod serfydliadau'n gwybod pa mor bwysig ydy cydnabod ac adrodd yn gynnar.
  • Gwneud yn siŵr bod sefydliadau'n gwybod am ein gwahanol wasanaethau.
  • Gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i ddarganfod y ffyrdd gorau o weithio.
  • Gwneud yn siŵr bod gwasanaethau'n cael yr hyfforddiant maen nhw ei angen.

5. Hyfforddi staff i wybod sut i gefnogi dioddedfwyr VAWDASV

Grŵp o bobl o wahanol sefydliadau sy'n gyfrifol am hyfforddi a gwneud yn siŵr bod y bobl gywir yn ei dderbyn.

Er enghraifft, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi hyfforddi dros 3,500 o staff.

Mae llawer mwy o bobl wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau VAWDASV am help gan fod staff yn deall y materion yma yn well.

Rhai o'r pethau y byddwn ni yn eu gwneud ydy:

  • Parhau i hyfforddi staff.
  • Gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod am ein hamserlen hyfforddi.
  • Gwneud yn siŵr ein bod yn cael adborth.
  • Darparu hyfforddiant i bobl fwy perthnasol. Er enghraifft, fferyllwyr.

6. Gwneud yn siŵr bod dioddefwyr yn cael y gwasanaethau gorau ar gyfer pob un o'u hanghenion

Rydyn ni yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar draws Abertawe i gefnogi pobl sy'n profi VAWDASV.

Dyma rai o'r pethau rydyn ni'n mynd i'w gwneud:

  • Cadw olwg ar wasanaethau a gwneud yn siŵr ein bod yn deall a ydy anghenion pobl yn cael eu hateb.
  • Gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn y ddeddf o'r enw Y Ddeddf Cydraddoldeb - mae'r ddeddf yma yn gwneud yn siŵr bod grwpiau o bobl sy'n aml yn cael eu trin yn annheg, yn cael eu trin yn deg. Er enghraifft, pobl anabl.
  • Fe fyddwn ni yn gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn y ddeddf yma ym mhob un o'n gwasanaethau, gan gynnwys tai.
  • Gwneud yn siŵr bod cymunedau ar draws Abertawe yn gwybod am ein gwasanaethau.
  • Rhoi mwy o gefnogaeth i ddiogelwch pobl sy'n cael eu heffeithio drwy weithio yn y diwydiant rhyw. Y diwydiant rhyw ydy lle mae pobl yn gwneud arian o ryw.
  • Edrych ar ffyrdd eraill o rannu ein gwybodaeth fel bod mwy o bobl yn deall. Er enghraifft, mewn ieithoedd eraill neu'n hawdd eu ddeall.

7. Edrych i weld os ydy ein cynlluniau'n gweithio

Rydyn ni wedi gwneud llawer o waith ymchwil yn barod. Rydyn ni wedi:

  • edrych ar ein gwasanaethau
  • gweld os oes gwasanaethau ar goll
  • a gwrando ar leisiau dioddefwyr.

Dyma rai o'r pethau rydyn ni'n mynd i'w gwneud fel rhan o'n cynllun:

  • Casglu gwybodaeth am ba mor dda mae gwasanaethau'n gweithio a beth sydd ar goll.
  • Gweithdio mwy gyda phartneriaid i gyflawni mwy.
  • Edrych i weld beth mae pobl ei angen a pha wasanaethau sydd eu hangen.
  • Edrych ar y ffyrdd gorau o weithio gyda sefydliadau eraill.

 


Geiriau anodd

Cam-drin domestig

Cam-drin domestig ydy unrhyw ymddygiad sy'n achosi niwed i rywun sy'n cael ei wneud gan bartner, cyn-bartner neu aelod o'r teulu.

Trais rhywiol

Mae trais rhywiol yn gallu digwydd i unrhyw un. Mae'n weithred rhyw sydd yn cael ei wneud i rywun pan nad ydyn nhw'n cytuno iddi. Mae'n erbyn y gyfraith.

Trais yn erbyn Menywod

Trais yn erbyn menywod ydy unrhyw fath o ymddygiad sy'n niweidio menywod a merched.

 

Cysylltiadau defnyddiol

Llinell Gymorth Byw heb Ofn
Yn rhoi help a chyngor am VAWDASV.
Llinell gymorth: 0808 80 10 800
Gwefan: www.llyw.cymru/byw-heb-ofn

Bawso
Mae'n darparu gwybodaeth a chymorth i gymunedau Duon, lleiafrifoedd ethnig a mudol yn Abertawe.
Ffôn: 01792 642003

New Pathways
Mae'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n cael eu heffeithio gan drais a cham-drin rhywiol.
Ffôn: 01685 379310
E-bost: enquiries@newpathways.org.uk

Cymorth i Fenywod Abertawe
Sefydliad menywod yn unig sy'n cefnogi menywod a phlant.
Ffôn: 01792 644683

Calan DVS
Un o'r elusennau cam-drin domestig yng Nghymru.
Llinell Gymorth Byw heb Ofn: 0808 80 10 800

Stori (oedd yn cael ei alw yn Hafan Cymru)
Cymdeithas tai. Yn cefnogi pobl ac yn rhoi hyfforddiant fel bod pawb yn gallu byw yn ddiogel.
Gwefan: storicymru.org.uk/
Llinell Gymorth Byw heb Ofn: 0808 80 10 800
Ffôn Swyddfa Abertawe: 01792 345751