Trais yn y cartref
Mae Deddf Cam-drin Domestig (2021) yn diffinio Cam-drin Domestig fel a ganlyn:
"Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy'n cynnwys ymddygiad camdriniol rhwng unigolion 16 oed ac yn hŷn sy'n bartneriaid personol, neu sydd wedi bod, neu rhwng aelodau o'r teulu ni waeth beth yw eu rhywedd neu eu rhywioldeb. Ystyrir bod plant sy'n gweld, yn clywed neu'n profi effeithiau'r gamdriniaeth, sy'n perthyn i'r naill barti neu'r llall, hefyd yn ddioddefwyr cam-drin domestig."
Mae ymddygiad yn 'gamdriniol' os yw'n cynnwys unrhyw un o'r canlynol:
- Ymddygiad corfforol
- Ymddygiad rhywiol
- Ymddygiad treisgar neu fygythiol
- Ymddygiad rheolaethol (gweithred sydd â'r nod o wneud i berson deimlo'n israddol a / neu'n ddibynnol ar y camdriniwr)
- Ymddygiad gorfodol (gweithred neu'n batrwm o ymosodiadau, byghthiadau, cywilyddio a brawychu neu gam-drin arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn y dioddefwr)
- Cam-drin economaidd
- Cam-drin seicolegol, emosiynol neu arall.
Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau lle mae'r unigolyn camdriniol yn ymddwyn yn gamdriniol tuag at berson arall (e.e. plentyn). Ystyr cam-drin economaidd yw unrhyw ymddygiad sy'n cael effaith niweidiol sylweddol ar allu rhywun i gaffael, defnyddio neu gynnal arian neu eiddo arall, neu ddefnyddio mwyddau neu wasanaethau.
Os ydych yn profi neu wedi profi cam-drin domestig, cofiwch taw NID eich bai chi ydyw. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac mae cefnogaeth ar gael.
Sgwrsfot Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun Sgwrsfot Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun