Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau Coffa yn Abertawe

Rhestr o wasanaethau a digwyddiadau er cof a pharch i'r rhai hynny sy'n amddiffyn ein rhyddid. Mewn cydweithrediad â'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Remembrance poppies

Seremoni Agoriadol yr Ardd Goffa
Y tu allan i westy Morgans, Oystermouth Road
Dydd Sul 3 Tachwedd
11.00am

Gŵyl y Cofio
Neuadd Brangwyn
Dydd Sadwrn 9 Tachwedd
6.00pm ar gyfer 7.00pm
Ni fydd angen tocynnau ar aelodau'r cyhoedd ond rhaid iddynt eistedd erbyn 6.30pm

Gwasanaeth y Senotaff
Senotaff Abertawe
Dydd Sul 10 Tachwedd
10.30am ar gyfer 11.00am

Gorymdaith y Cofio
Stryd Rhydychen
Dydd Sul 10 Tachwedd
2.00pm ar gyfer 2.30pm

Gwasanaeth y Cofio
Eglwys y Santes Fair, Abertawe
Dydd Sul 10 Tachwedd
2.00pm ar gyfer 2.30pm
Gwahoddedigion yn unig

Pabïau i Paddington
Gorsaf Drenau Abertawe
Dydd Llun 11 Tachwedd
Gwasanaeth am 6.45am, trên am 7.15am

Gwasanaeth y Senotaff
Senotaff Abertawe
Dydd Llun 11 Tachwedd
10.15am ar gyfer 11.00am

Abertawe'n Cofio
St David's Place, canol y ddinas
Dydd Llun 11 Tachwedd
10.30am gyda'r distawrwydd traddodiadol am 11.00am

Ailgysegru a dadorchuddio cofeb 'Bechgyn Cilfái'
Cofeb y Gwn Gwrthawyrennol ger y ddwy bont ar Fabian Way
Dydd Gwener 15 Tachwedd
12 ganol dydd

Arddangosfa pabïau wedi'u gwau yng Nghastell Ystumllwynarth
Bydd un o waliau Castell Ystumllwynarth yn arddangos mwy na 6,000 o babïau wedi'u gwau mewn teyrnged arbennig dan arweiniad y gymuned. Bydd y gwaith yn dechrau ar yr arddangosfa o 4 Tachwedd a bydd ar waith mewn pryd ar gyfer 11 Tachwedd.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Bydd adeiladau dinesig yn Abertawe'n distewi am 11am ar 11 Tachwedd ar gyfer y distawrwydd dwy funud cenedlaethol.

Bydd Neuadd y Ddinas wedi'i goleuo'n goch fel y pabi ar nosweithiau 10 ac 11 Tachwedd.

Bydd pabïau ar werth mewn nifer o leoliadau'r Cyngor, gan gynnwys Marchnad Abertawe, sawl llyfrgell a'r Ganolfan Ddinesig.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Hydref 2024