Toglo gwelededd dewislen symudol

Grantiau a benthyciadau ar gyfer gwneud addasiadau i'r cartref

Gallwn helpu pobl oedrannus ac anabl i addasu eu cartrefi i weddu'n well i'w hanghenion.

Gall addasiadau tai fod yn hanfodol ar gyfer galluogi person i barhau i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn ei gartref ei hun, a gall trawsnewid ansawdd bywyd rhywun. Gall fod angen rhywbeth mor syml â chanllaw ar rai pobl, sy'n hawdd iawn i'w darparu. Efallai bod angen rhywbeth mwy o faint a mwy cymhleth ar eraill, fel estyniad i'w cartref neu lifft drwy'r llawr.

Weithiau, mae'r addasiadau symlaf, fel canllawiau, yn golygu bod rhywun yn cael gadael yr ysbyty a byw adref. Hefyd gall canllawiau a rampiau helpu i leihau'r perygl bod rhywun yn baglu neu'n cwympo, ac efallai o ganlyniad i hynny'n gorfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.

Ar ôl i ni asesu'r angen a nodi'r addasiadau sydd eu hangen, byddwn yn helpu drwy ddarparu'r addasiadau mewn modd amserol ac effeithlon.

Mathau o addasiadau sydd ar gael

P'un a ydych yn berchen ar eich cartref neu'n ei rentu, bydd y trefniadau sylfaenol yr un peth. Er y gall anghenion unigolyn gynnwys mwy nag un math, nod y gwasanaeth yw darparu'r ateb cyflymaf, mwyaf effeithiol i gyflwyno'r addasiadau. Mae'r gwasanaeth yn darparu addasiadau a ddiffinnir fel 'Addasiadau Bach, Canolig neu Fawr' yn ôl Safonau Gwasanaeth ar gyfer Addasiadau i Dai Llywodraeth Cymru, mis Mawrth 2020.

1. Addasiadau Bach (Grant Addasiadau Bach Dewisol)

Fel arfer, bydd y categori hwn yn cynnwys eitemau syml megis:

  • canllawiau cydio a chanllawiau ar y grisiau
  • rampiau bach
  • tapiau sy'n hawdd eu defnyddio
  • blychau i gadw allweddi yn ddiogel

Fel arfer addasiadau syml iawn yw'r rhain, a fydd yn cael eu gosod yn gyflym unwaith bydd yr angen wedi'i nodi. Ni fydd angen prawf modd ar eu cyfer. Ni fydd angen i therapydd galwedigaethol gynnal asesiad.

Byddwn yn trefnu i'r gwaith hwn gael ei wneud gan ein hasiantaeth bartner Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin.

2. Addasiad Canolig (Grant Addasiadau Llwybr Carlam Dewisol)

Mae'r categori hwn yn ymwneud ag addasiadau neu newidiadau canolig i'r cartref (ond nid y rheini lle mae angen caniatâd cynllunio neu newidiadau strwythurol), ac mae'n cynnwys eitemau megis:

  • cawod y gellir cerdded i mewn iddi
  • cadeiriau grisiau
  • rampiau mawr

Nid yw'r grant hwn yn destun prawf modd bellach ac nid oes angen i'r sawl sy'n gwneud cais am y grant ddarparu cyfraniad ariannol tuag at gost y gwaith. Mae'n bosibl y byddant hefyd yn destun asesiad gan therapydd galwedigaethol neu asesydd dibynadwy.

3. Addasiadau mawr (Grant Cyfleusterau i'r Anabl)

Mae'r categori hwn yn cynnwys yr addasiadau sylweddol y mae eu hangen yn y cartref, gan gynnwys newidiadau i strwythur yr adeilad. Gallai fod angen caniatâd cynllunio ar gyfer addasiadau yn y categori hwn, gan eu bod yn cynnwys pethau megis:

  • adeiladu estyniad i ddarparu ystafell wely a/neu ystafell ymolchi i lawr y grisiau
  • lifft sy'n codi drwy'r llawr
  • newidiadau mewnol sylweddol i strwythur yr adeilad, er enghraifft er mwyn ail-leoli ystafell ymolchi neu gegin

Bydd camau prydlon yn cael eu cymryd ym mhob achos, ond bydd yr amserlen yn adlewyrchu'r camau y mae'n rhaid eu cymryd mewn rhai achosion, er enghraifft os oes angen caniatâd cynllunio.

Mae pob cais yn destun prawf modd ac efallai y bydd angen i'r ymgeisydd wneud cyfraniad ariannol tuag at ran o gost y gwaith neu'r gost lawn (ac eithrio yn achos plant anabl a phobl ifanc dan 19 oed sy'n ddibynnol).

Bydd therapydd galwedigaethol yn ymweld i gynnal asesiad a fydd yn cynnwys:

  • casglu gwybodaeth am eich cyflwr meddygol/anabledd
  • trafod sut rydych yn ymdopi â thasgau bob dydd o amgylch eich cartref
  • bydd angen i'r therapydd galwedigaethol eich gwylio'n ymgymryd â thasgau arbennig er mwyn iddynt ddeall yn well beth yw eich anawsterau

Gwneir pob ymdrech i gynnal asesiad llawn yn ystod yr ymweliad cyntaf ond efallai bydd angen i'r Therapydd Galwedigaethol gasglu gwybodaeth ychwanegol cyn gwneud unrhyw gasgliad.

Os yw'r gwaith yn helaeth ac mae cost y gwaith yn uwch na'r lwfans grant sydd ar gael, efallai y bydd angen ystyried opsiynau eraill gan gynnwys eich helpu i symud i eiddo mwy addas os ydych yn berchennog tŷ (drwy ein Grant Adleoli Cartref a Addaswyd), neu chwilio am arian arall sydd ar gael i dalu'r diffyg costau am y gwaith, gan gynnwys arian yr ymgeisydd ei hun neu wneud cais am ein Benthyciad Cyfleusterau Dewisol.

 phwy ddylwn i gysylltu os oes angen addasiad arnaf?

Cysylltwch â'n tîm grantiau tai Tîm Grantiau Tai

Os ydych yn denant y cyngor, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardalleol.

 

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl yn y sector rhentu preifat 

Mae Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ar gael i denantiaid yn y sector rhentu preifat ond bydd angen i'ch landlord roi caniatâd ar gyfer y gwaith. Rydym yn gweithio gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol (Yn agor ffenestr newydd) ar eu hymgyrch genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth o fuddion addasiadau i gartrefi yn y sector rhentu preifat: Gwneud addasiadau i'ch eiddo (Cymdeithas Landlordiaid Preswyl Genedlaethol) (Yn agor ffenestr newydd)

Adnewyddu tai'r sector preifat ac addasiadau i'r anabl: polisi darparu cymorth 2022-2027

Mae Polisi Adnewyddu Tai ac Addasiadau i'r Anabl y Sector Preifat yn manylu ar sut mae Dinas a Sir Abertawe (y cyngor) yn darparu cymorth i helpu perchnogion a thenantiaid preifat i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2024