Toglo gwelededd dewislen symudol

Addasiadau i'ch cartref

Gwybodaeth am sut i wneud addasiadau mwy neu lai i'ch cartref i'ch helpu gyda'ch nam.

Grant cyfleusterau i'r anabl

Gallwch wneud cais os ydych yn berchen ar eich cartref neu os ydych yn ei rentu gan y cyngor, cymdeithas tai neu landlord preifat. I fod yn gymwys ar gyfer y grant, bydd rhaid i therapydd galwedigaethol gynnal asesiad o'ch anghenion a gweld pa waith sy'n briodol. Mae prawf modd i'r grantiau, ac yn ôl eich amgylchiadau ariannol, mae'n bosib y bydd gofyn i chi gyfrannu at dalu am y gwaith.

Am gwy o wybodaeth gweler: Grantiau a benthyciadau ar gyfer gwneud addasiadau i'r cartref.

Addasiadau llai

Ar gyfer addasiadau llai, mae Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin yn cynnig cyngor a chymorth i'r henoed neu berchnogion preswyl anabl. Maent hefyd yn cyflwyno Rhaglen Addasiadau Brys a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu pobl i ddychwelyd adref ar ôl cael eu rhyddhau o'r ysbyty, neu i atal mynd i'r ysbyty neu ofal preswyl.

Gwneud cais am gartref wedi'i addasu

Mae prosiect ADAPT yn bartneriaeth sy'n cynnwys darparwyr tai lleol yn Abertawe ac mae'n symleiddio'r broses o wneud cais am gartref wedi'i addasu. 

Offer arbenigol

Os nad oes angen addasiadau corfforol ar eich cartref ond byddai cyfarpar arbenigol o fudd i chi ac yn gwneud eich bywyd yn haws, ceir rhai awgrymiadau am bwy allai eich helpu ar ein tudalen Cymhorthion a chyfarpar.

Grantiau a benthyciadau ar gyfer gwneud addasiadau i'r cartref

Gallwn helpu pobl oedrannus ac anabl i addasu eu cartrefi i weddu'n well i'w hanghenion.

Gofal a Thrwisio Bae'r Gorllewin

Nod Gofal a Thrwsio yw lleddfu anghenion pobl yn yr ardal sydd dan anfantais oherwydd iechyd, salwch neu anabledd, drwy ddarparu cefnogaeth, cymorth, cyfleusterau, amwynderau a gwasanaethau i bobl o'r fath mewn perthynas â'u tai.

ADAPT

Mae ADAPT yn cynorthwyo pobl anabl i ddod o hyd i lety sydd wedi'i addasu'n briodol.

Cymhorthion a chyfarpar

Mae amrywiaeth eang o gymhorthion a chyfarpar ar gael a all wneud bywyd yn haws i bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd, neu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd symud o gwmpas.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Gorffenaf 2021