Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae hawl y rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref yr un mor berthnasol os oes gan y plentyn hwnnw anghenion addysgol arbennig (AAA).

Mae'n rhaid i'r rhieni ddarparu'n addas ar gyfer anghenion arbennig y plentyn ond, o ganlyniad i'r newid yn lleoliad addysgol y plentyn, efallai bydd y ddarpariaeth hon yn wahanol i'r ddarpariaeth a amlinellir yn y datganiad, a fyddai'n briodol mewn lleoliad ysgol.

Os yw trefniadau'r rhieni'n addas, ni fydd dyletswydd ar yr ALI i drefnu'r ddarpariaeth a nodwyd yn y datganiad mwyach. Fodd bynnag, os nad yw trefniadau'r rhieni'n diwallu anghenion y plentyn, nid yw'r rhieni'n gwneud trefniadau addas felly, a bydd yr ALI yn gyfrifol am drefnu'r ddarpariaeth a nodwyd yn y datganiad. Ymgynghorir a Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Awdurdod Lleol ynghylch y materion hyn.

Os oes gan blentyn ddatganiad o AAA ac mae'n cael ei addysgu yn y cartref, nid yw'r datganiad yn dod i ben yn awtomatig. Wrth gynnal y datganiad mae'n rhaid ei adolygu'n flynyddol.

Yn achos plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, yn ol Adran 324 (4A) Deddf Addysg 1996, nid oes angen darparu enw ysgol yn Rhan 4 y datganiad. Bydd yna drafodaeth rhwng yr awdurdod a'r rhieni ac, yn hytrach nag enwi'r ysgol, dylai Rhan 4 y datganiad nodi'r math o ysgol y mae'r ALI yn ystyried ei bod yn briodol, ond dylid hefyd nodi: 'gwnaed trefniadau gan y rhieni o dan Adran 7 Deddf Addysg 1996'.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2021