Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - cwestiynau cyffredin

Dyma rai cwestiynau i'w hystyried cyn penderfynu addysgu eich plentyn gartref:

  1. Ydy'ch plentyn yn gadarnhaol o ran yr awgrym o gael ei addysgu gartref?
  2. Ydych chi o'r farn mai hwn yw'r penderfyniad gorau i'ch plentyn?
  3. Oes gennych chi'r amser i'w ymroi i addysg eich plentyn?
  4. Oes gennych y gallu i addysgu eich plentyn yn effeithiol?
  5. A fyddwch chi'n gallu addysgu eich plentyn at y lefel ofynnol os yw am sefyll TGAU?
  6. Ydych chi'n barod i brynu'r adnoddau angenrheidiol?
  7. Oes gennych gefnogaeth arall sydd ar gael i chi?
  8. Oes gennych le i greu ardal weithio dawel?
  9. Oes cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol?
  10. A fydd profiadau cymdeithasol gyda phlant eraill ar gael?
  11. Ydych chi'n siŵr nad ydych yn dewis addysgu yn y cartref fel ffordd o osgoi cweryla gyda phennaeth neu ysgol, neu fel esgus dros beidio ag anfon eich plentyn i'r ysgol yn brydlon?

 

Ar ba oedran mae addysg yn orfodol?
Beth yw addysg ddewisol yn y cartref?
Pam y byddwn yn dewis addysgu fy mhlentyn gartref?
Mae gan i ddiddordeb mewn addysgu fy mhlentyn gartref, beth ddylwn i ei wneud?
Beth sy'n digwydd nesaf?
Beth fydd yn digwydd os yw'n ymddangos nad wyf yn darparu addysg addas?
Beth ddylwn i ei wneud os oes gan fy mhlentyn Gynllun Datblygu Unigol (CDU)?
Oes angen i mi fod yn athro er mwyn gallu addysgu yn y cartref?
Beth sydd angen i mi ei addysgu?
Oes angen i mi ddilyn y Cwricwlwm i Gymru?
A fyddaf yn derbyn unrhyw gyllid neu gefnogaeth?
A fydd fy mhlentyn yn cael sefyll arholiadau?
A all fy mhlentyn ddychwelyd i'r ysgol?
A fydd fy mhlentyn yn gallu elwa o wasanaethau?

 

Ar ba oedran mae addysg yn orfodol?

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn dderbyn addysg o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd pan fydd yn cyrraedd 16 oed.

Beth yw addysg ddewisol yn y cartref?

Term a ddefnyddir i ddisgrifio sefyllfa pan fydd rhieni'n addysgu eu plant gartref yn hytrach na'u hanfon i ysgol yw addysg ddewisol yn y cartref. Yng Nghymru, fel gweddill y DU, mae addysg yn orfodol ond nid oes rhaid mynd i'r ysgol.

Pam y byddwn yn dewis addysgu fy mhlentyn gartref?

Gall nifer o resymau ddylanwadu ar eich penderfyniad i addysgu eich plentyn gartref, gan gynnwys credoau athronyddol, ysbrydol neu grefyddol. Efallai eich bod hefyd yn teimlo eich bod yn gallu diwallu anghenion a dull dysgu unigol eich plentyn yn well nag ysgol.

Ni ddylai ysgol nag awdurdod lleol eich annog i dynnu eich plentyn oddi ar gofrestr ysgol er mwyn osgoi bod eich plentyn yn cael ei wahardd neu eich bod chi'n cael eich erlyn.

Mae gen i ddiddordeb mewn addysgu fy mhlentyn gartref, beth ddylwn i ei wneud?

Casglwch gymaint o wybodaeth â phosib am addysg ddewisol yn y cartref i sicrhau eich bod yn gwneud penderfyniad gwybodus. Gallwch siarad ag athrawon yn yr ysgol, y Swyddog Lles Addysg neu aelod o'r Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref trwy e-bostio electivehomeeducation@abertawe.gov.uk

Os ydych yn penderfynu addysgu'n ddewisol yn y cartref, rhaid i chi nodi eich bwriad yn ysgrifenedig i'r pennaeth gan ofyn iddo dynnu enw eich plentyn oddi ar y gofrestr gan eich bod yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb dros ei addysg.

Bydd y pennaeth wedyn yn rhoi gwybod i Dîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yr Awdurdod Lleol drwy e-bostio: electivehomeeducation@abertawe.gov.uk

Os nad yw eich plentyn erioed wedi bod i'r ysgol, nid oes angen i chi roi gwybod i'r ysgol, dim ond y Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan rydych yn dechrau addysgu eich plentyn gartref, bydd yr awdurdod lleol yn ysgrifennu atoch ac yn anfon dolenni i arweiniad ac Arweiniad i Rieni am Addysg Ddewisol yn y Cartref sy'n pennu eu cyfrifoldebau penodol, ynghyd â gwybodaeth ar gyfer rhieni a'u cyfrifoldebau.

Bydd cynrychiolydd o'r Tîm Addysg Ddewisol yn y Cartref yn cysylltu â chi o fewn pedair wythnos i ganfod sut rydych yn bwriadu diwallu anghenion eich plentyn wrth ddarparu addysg. Byddant yn cynnig cyfarfod anffurfiol yn eich cartref er mwyn trafod eich cynlluniau. Mae llawer o rieni'n gweld hyn yn fuddiol ond efallai eich bod am gwrdd rhywle arall.

Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am sefydliadau sy'n cefnogi rhieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref.

Beth fydd yn digwydd os yw'n ymddangos nad wyf yn darparu addysg addas?

O dan Adran 437(1) Deddf Addysg 1996, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i weithredu os yw'n ymddangos nad yw rhieni'n darparu addysg addas.

Bydd yr awdurdod lleol yn cynnig gwneud ymweliad cartref gyda'r nod o'ch helpu i oresgyn yr anawsterau o fewn amserlen gytunedig.

Os nad ydych yn gallu profi i'r awdurdod lleol eich bod yn darparu addysg addas, ac mae'n teimlo bod angen i'ch plentyn fynychu'r ysgol, gall gyflwyno Gorchymyn Mynychu'r Ysgol i chi.

Am ragor o wybodaeth am Orchmynion Mynychu'r Ysgol, gweler y Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan: https://www.llyw.cymru/fframwaith-presenoldeb-ar-gyfer-cymru-gyfan

Beth ddylwn i ei wneud os oes gan fy mhlentyn Gynllun Datblygu Unigol (CDU)?

Mae'r un weithdrefn yn berthnasol os oes gan eich plentyn CDU ac mae'n mynychu ysgol brif ffrwd. Fodd bynnag, os yw rhiant am ddarparu addysg ddewisol yn y cartref i blentyn a leolir gan yr ALl mewn ysgol arbennig, bydd angen iddo ysgrifennu at y pennaeth a'r Uned Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy e-bostio: ALNIT@abertawe.gov.uk i ofyn i'w gais gael ei gyflwyno i'r panel ADY.

Bydd y Panel ADY yna'n penderfynu a yw'r rheini'n gallu darparu addysg ddigonol sy'n addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y plentyn ac unrhyw ADY y gall fod ganddo, fel y nodwyd yn adran 7 Deddf Addysg 1996.

Yn y naill achos, rhaid i'r addysg rydych chi'n ei darparu gyflawni amcanion y CDU.

Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gynnal adolygiad blynyddol tra bo'r datganiad yn berthnasol.

Mae gennych yr hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC).

Oes angen i mi fod yn athro er mwyn gallu addysgu yn y cartref?

Nac oes, nid oes rhaid i chi fod yn athro ac nid oes rhaid i chi feddu ar unrhyw gymwysterau.

Beth sydd angen i mi ei addysgu?

Eich cyfrifoldeb fel rhiant yw sicrhau bod yr hyn a addysgir yn helpu eich plentyn i ddysgu.

Mae'n rhaid i'r addysg rydych yn ei darparu fod yn effeithlon ac yn addas. O dan Adran 7 Deddf Addysg 1996, eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw sicrhau bod eich plentyn yn derbyn addysg amser llawn effeithlon sy'n addas i'w oedran, ei allu a'i ddoniau ac unrhyw anghenion addysgol arbennig y gall fod ganddo.

Gellir gwneud hyn mewn ysgol neu fel arall. Ystyrir bod addysg yn effeithlon ac yn addas os yw'n caniatáu i blentyn gyflawni ei botensial ac os yw'n ei baratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Oes angen i mi ddilyn y Cwricwlwm i Gymru?

Nac oes, ond efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ei ddefnyddio fel fframwaith er mwyn penderfynu pa bynciau i'w cynnwys a sut i asesu cyflawniad eich plentyn.

A fyddaf yn derbyn unrhyw gyllid neu gefnogaeth?

Os ydych yn penderfynu addysgu eich plentyn gartref, mae'n rhaid i chi fod yn barod i gymryd y cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys talu am unrhyw arholiadau cyhoeddus.

Er nad yw awdurdodau lleol yn derbyn unrhyw gyllid ar gyfer teuluoedd sy'n penderfynu addysgu eu plant yn y cartref, mae sawl awdurdod lleol yn hoffi dod i adnabod rhieni ac, mewn rhai achosion, ddarparu cefnogaeth.

A fydd fy mhlentyn yn cael sefyll arholiadau?

Bydd. Gallwch gofrestru eich plentyn i sefyll arholiadau yn eich canolfan arholiadau allanol leol - coleg addysg bellach yn aml. Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu am y gost eich hun. Gall yr awdurdod lleol ddweud wrthych am leoliad eich canolfannau arholiadau lleol.

A all fy mhlentyn ddychwelyd i'r ysgol?

Ydy, ond bydd angen i chi gysylltu â thîm Derbyniadau'r Awdurdod Lleol yn: Gwneud cais am le ysgol yng nghanol y flwyddyn (trosglwyddo o ysgol arall)

A fydd fy mhlentyn yn gallu elwa o wasanaethau?

Bydd. Gall plentyn sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref gael mynediad o hyd at wasanaethau cyffredinol fel Gyrfa Cymru, Iechyd, y Ganolfan Cymorth Cynnar.

 


(Diffinnir rhiant neu ofalwr at ddibenion yr wybodaeth hon fel unrhyw berson â chyfrifoldeb rhiant o dan Ddeddf Addysg 1996.)

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Chwefror 2025