Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg Gymraeg yn Abertawe - y daith at ddwy iaith

Y daith at ddwy iaith - dewis addysg Gymraeg.

Ledled Cymru mae mwy a mwy o rieni yn dewis addysg Gymraeg i'w plant fel y gallant ddod yn ddwyieithog ac yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Does dim angen i reini allu siarad Cymraeg er mwyn i'w plant fynychu addysg Gymraeg - mae plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg yn yr ysgol ac yn dod yn rhugl yn gyflym.

Gall dwyieithrwydd ddod â llawer o fanteision i'ch plentyn:

  • Gall dysgwyr sy'n deall mwy nag un iaith feddwl yn fwy creadigol ac yn fwy hyblyg ac maent yn tueddu i wneud yn well mewn profion deallusrwydd IQ.
  • Mae gan ddwyieithrwydd effaith bositif ar yr ymennydd trwy ei gadw'n fywiog yn ddiweddarach yn ystod eu hoes.
  • Gall bod yn ddwyieithog leihau'r risg o ddementia.
  • Yng Nghymru, mae gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn sgil ychwanegol gwerthfawr a fydd yn fanteisiol i'ch plentyn wrth chwilio am waith.
  • Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi mynediad i ddau ddiwylliant a dau fyd o brofiad.
  • O ddwyiethog i aml-ieithog - mae pobl ddwyieithog yn ei chael hi'n haws dysgu trydedd iaith a dangos mwy o oddefgarwch tuag at ddiwylliannau eraill.
  • Ledled Cymru mae plant dwyieithog yn tueddu i sicrhau gwell canlyniadau - gan gynnwys yn Saesneg.