Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg Gymraeg yn Abertawe

Mae nifer o fanteision i Addysg Gymraeg. Mae ymchwil yn profi mai dyma'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn ddwyieithog yn y Saesneg a'r Gymraeg.

Mae'n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle, gyda'r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.

Mae Llywodraeth cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu cymru ddwyieithog trwy ei strategaeth iaith Gymrae, 'Cymraeg 2050', gyda gweledigaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dechrau'n Deg

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau'n Deg ac mae ar gael mewn ardaloedd a dargedir er mwyn cefnogi pob teulu i roi dechrau teg mewn bywyd i blant 0-3 oed.

Nod y cynllun yw darparu gwasanaethau cefnogi dwys i blant 0-3 oed a'u teuluoedd. Mae ffocws y rhaglen ar hyrwyddo iaith, sgiliau gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol, datblygiad corfforol a nodi anghenion dwys yn gynnar.

Plant 4-11 oed

Pa bynnag iaith y byddwch chi'n siarad yn y cartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg roi sgiliau ychwanegol i blant a mwy o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Felly hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad Cymraeg eich hun, beth am ystyried addysg cyfrwng cymraeg i'ch plentyn? Mae 10 o ysgolion cynradd cyfrwng cymraeg dynodedig yn Abertawe: Ysgolion cynradd Cymraeg.

Pobl ifanc 11-18 oed

Mae ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn bwydo ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg, lle bydd eich plentyn yn astudio ac yn sefyll arholiadau yn y Gymraeg. Mae dwy ysgol uwchradd cyfrwng cymraeg ddynodedig yn Abertawe: Ysgolion uwchradd Cymraeg.

16 oed a thu hwnt (tu allan i'r ysgol)

Mae mwy nag un o bob pump o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Felly, os ydych chi wedi astudio yn Gymraeg hyd yma, sut ydych chi'n parhau i ddysgu ar ol i chi adael yr ysgol?

Yr laith Gymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: Gower College/speaking Welsh.

Abertawe 2023

Mae Abertawe 2023 yn sefydlu ein blaenoriaethau addysg a sut byddwn ni yn Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth i gyflawni ein gweledigaeth.
Close Dewis iaith