Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeiladau cynaliadwy

Mae rheoliadau adeiladu'n gosod safonau cynaliadwy i adeiladau newydd ac adeiladau sydd wedi'u haddasu. Drwy wneud eich adeilad yn fwy cynaliadwy, mae'n well i'r amgylchedd a gall arbed arian ar bethau megis gwres a dŵr.

Mae Rheoli Adeiladu Abertawe'n cynnig nifer o wasanaethau i'ch helpu i fodloni gofynion rheoliadau adeiladu. Gallant hefyd gynnal gwiriadau annibynnol ar eich gwaith yn ogystal â rhoi cyngor i chi ar sut i gyflawni'r safonau hyn.

Tystysgrifau Perfformiad Ynni ar gyfer tai newydd eu hadeiladu

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) yn rhoi amcangyfrif o effeithlonrwydd ynni adeilad.

Effeithlonrwydd dŵr

Mae'n rhaid i anheddau newydd, neu anheddau sy'n cael eu creu drwy newid sylweddol o ran defnydd, gydymffurfio â methodoleg effeithlonrwydd dŵr.
Close Dewis iaith