Effeithlonrwydd dŵr
Mae'n rhaid i anheddau newydd, neu anheddau sy'n cael eu creu drwy newid sylweddol o ran defnydd, gydymffurfio â methodoleg effeithlonrwydd dŵr.
Mae'n rhaid cyfrifo'r dŵr a ddefnyddir gan eiddo ac ni ddylai fod yn fwy na 125 o litrau y person y dydd.
Caiff cyfraddau llifiant tapiau eu gostwng i atal gwastraff. Mae dŵr yn adnodd drud i'w gynhyrchu; defnyddir ynni i'w buro a chynhyrchir carbon deuocsid yn y broses sy'n niweidiol i'r amgylchedd.
Nodir y rheolau yn Rhan G y Rheoliadau Adeiladu (glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac arbed dŵr).
I gael mwy o wybodaeth am y safonau, gallwch ein ffonio ni ar 01792 635636 neu e-bostio rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk.