Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeiladau rhestredig

Ceir mwy na 500 o adeiladau rhestredig o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe, gan amrywio o flychau ffôn, adeiladau preswyl ac eiddo masnachol.

Pam mae adeiladau'n cael eu rhestru?

Mae adeiladau'n cael eu rhestru oherwydd yr ystyrir eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac, o ganlyniad mae angen gwarchodaeth arbennig arnynt. Mae rhestru'n gwarchod yr adeilad cyfan, y tu mewn a'r tu allan, a gelir gwarchod adeiladau cyfagos hefyd os cawsant eu codi cyn 1 Gorffennaf 1948. Y prif ddiben yw gwarchod yr adeilad a'i gyffiniau rhag newidiadau a fydd yn newid yn sylweddol bwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol yr adeilad neu ei leoliad.

Mae pob adeilad a gafodd ei godi cyn 1700 ac sy'n gyflawn i raddau helaeth yn rhestredig. Mae'r un peth yn wir am y rhan fwyaf o adeiladau a godwyd rhwng 1700 a 1840, er bod rhywfaint o ddethol. Mae meini prawf tynnach gan y broses ddethol yn achos adeiladau a godwyd ers 1840 oherwydd bod cymaint mwy o adeiladau ar ôl heddiw. Nid yw adeiladau sy'n llai na 30 oed yn cael eu rhestru fel arfer oni bai eu bod o bwys pensaernïol neu hanesyddol arbennig a'u bod dan fygythiad posibl.

Graddau rhestru

  • Mae adeiladau Gradd I o ddiddordeb eithriadol. Tua 2% yn unig o adeiladau rhestredig sydd yn y categori hwn.
  • Mae adeiladau Gradd II* o ddiddordeb penodol. Mae tua 4% o adeiladau rhestredig yn y categori hwn.
  • Mae adeiladau Gradd II o ddiddordeb arbennig. Mae'r radd hon yn berthnasol i 94% o adeiladau rhestredig.

Pryd mae angen caniatâd adeilad rhestredig?

Mae angen caniatâd ar gyfer pob cynnig, ni waeth pa mor fach neu ddi-nod mae'n ymddangos, a fyddai'n effeithio ar gymeriad unrhyw ran o'r tu mewn neu'r tu allan i adeilad rhestredig. Rhestrir adeiladau yn eu cyfanrwydd ac mae'n drosedd dechrau gwaith newid, estyn neu ddymchwel heb ganiatâd.

Nid oes angen caniatâd i atgyweirio rhywbeth heb ei newid ac nid oes angen caniatâd ar gyfer addurno allanol sy'n cadw'r un lliwiau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn cysylltu ag is-adran cadwraeth y cyngor i wirio a oes angen caniatâd cyn dechrau unrhyw waith.

Yn gyffredinol, wrth ystyried atgyweiriadau ac addasiadau i adeilad rhestredig, dylid ceisio adnabod y rhesymau dros wneud hyn a safon manylion adeiladu, deunyddiau a dylunio traddodiadol.

Ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig

Gellir cael rhagor o gyngor ar ganiatâd adeilad rhestredig drwy'r  Porth Cynllunio - Nodiadau Arweiniol ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig. (PDF) [60KB]

Gellir gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig drwy'r The Planning Portal Applications (Yn agor ffenestr newydd)

Beth os ydw i'n gwneud gwaith heb ganiatâd?

Os yw adeilad yn rhestredig, mae'n drosedd gwneud unrhyw waith i'r adeilad sy'n effeithio ar ei ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol heb ganiatâd yr is-adran gynllunio. Gallech gael eich erlyn a/neu'ch gorfodi i unioni'r hyn rydych wedi'i wneud. Gallai'r gosb uchaf gynnwys dedfryd carchar a dirwyon diderfyn.

Cofnodion adeiladau rhestredig

Gellir gweld manylion a lleoliadau pob adeilad rhestredig yng Nghymru yn MapDataCymru (Yn agor ffenestr newydd).  

Bydd clicio ar y pinnau ar y map yn agor gwybodaeth o gofnod Cadw ar gyfer yr adeilad rhestredig perthnasol. 

Sylwer mai dim ond yr adeilad rhestredig ei hun y mae data pwynt yn ei leoli. Nid yw'n dangos maint llawn y rhestriad sy'n gwarchod unrhyw wrthrych neu adeiledd sy'n sownd wrth yr adeilad rhestredig ac sy'n ategol iddo, neu sydd o fewn y cwrtil sy'n ffurfio rhan o'r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers 1 Gorffennaf 1948. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Cadw yn Cadw.Llyw.Cymru.

Adeiladau Rhestredig ac Atgyweiriadau Cyfatebol

Os ydych yn ystyried mynd ati i atgyweirio adeilad rhestredig neu wneud gwaith iddo gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau sy'n cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, yna mae'n ddoeth siarad â Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae hyn yn bwysig i gadarnhau bod yr atgyweiriadau sy'n cyfateb yn wirioneddol i'r gwreiddiol a bod y gwaith arfaethedig yn briodol ar gyfer yr adeilad rhestredig.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Chwefror 2023