Toglo gwelededd dewislen symudol

Adeiladau Rhestredig ac Atgyweiriadau Cyfatebol

Os ydych yn ystyried mynd ati i atgyweirio adeilad rhestredig neu wneud gwaith iddo gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau sy'n cyfateb i'r rhai a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, yna mae'n ddoeth siarad â Swyddog Cadwraeth yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae hyn yn bwysig i gadarnhau bod yr atgyweiriadau sy'n cyfateb yn wirioneddol i'r gwreiddiol a bod y gwaith arfaethedig yn briodol ar gyfer yr adeilad rhestredig.

Gellir mynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig. Byddwn yn asesu'ch cynigion ac yn dweud wrthych a yw eich atgyweiriadau arfaethedig yn cael eu hystyried yn waith cyfatebol priodol. Os oes angen, byddwn yn amlygu lle mae angen caniatâd adeilad rhestredig.

Dyma'r taliadau ar gyfer y gwasanaeth cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig:

  • Ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig: £100 + TAW
  • Ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig masnachol: £250 + TAW

Gallwch gyflwyno ymholiad cyn cyflwyno cais ar gyfer adeilad rhestredig gan ddefnyddio'r ffurflenni cyn cynllunio statudol yn  Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Hydref 2021