Adneuo neu rhoddi archifau
Mae'n bleser gennym derbyn dogfennau er mwyn eu cadw'n ddiogel yn yr ystorfa yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, os maen nhw yn cyfateb i'n polisi casglu.
Maen nhw'n cael eu rhoi i ni naill ai fel rhodd neu ar sail benthyciad tymor hir. Mae'r perchennog yn cael derbynneb a chopi o'r catalog cyn gynted ag y caiff ei lunio. Bydd y dogfennau'n cael eu cadw'n ddiogel mewn amgylchedd a reolir a fwriedir i sicrhau eu cadwedigaeth barhaol. Byddant yn cael eu dangos i'r cyhoedd dan oruchwyliaeth agos.
Cysylltiadau i'n polisiau
Dyma'n polisi sy'n ymwneud ag adneuo neu rhoddi archifau:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Canolfan Ddinesig
Heol Ystumllwynarth,
Abertawe
SA1 3SN
Ffôn: 01792 636589
Ffacs: 01792 637130
E-bost: archifau@abertawe.gov.uk