Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol
I sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, mae'n ofynnol i gynghorau adolygu eu cynlluniau o leiaf unwaith bob pedair blynedd.
Yn unol â deddfwriaeth, paratowyd Adroddiad Adolygu Drafft sy'n nodi materion allweddol i fynd i'r afael â hwy drwy'r broses o lunio CDLl newydd, ac yn cadarnhau'r weithdrefn adolygu ar gyfer ymgymryd â'r broses hon.
Roedd yr Adroddiad Adolygu Drafft yn destun cyfnod o ymgynghori cyhoeddus yn ddiweddar tan 20 Ebrill 2023.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae'r sylwadau'n cael eu hystyried ar hyn o bryd a bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol i'r adroddiad adolygu drafft yn cael eu gwneud cyn i fersiwn derfynol gael ei llunio a'i chyflwyno i aelodau'r cyngor i'w chymeradwyo.