Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2)

Mae gwaith wedi dechrau i baratoi cynllun datblygu newydd ar gyfer Abertawe. Pan gaiff ei fabwysiadu, bydd CDLl2 yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol presennol a bydd yn darparu'r glasbrint cynllunio newydd ar gyfer datblygu yn y dyfodol ar draws Abertawe hyd at 2038.

Newyddion Diweddaraf: Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth a Ffefrir CDLl2 bellach ar y gweill. Ewch i'n hystafell ymgynghori rithwir gyffrous i weld y Strategaeth a Ffefrir ac i weld fideo byr yn ymwneud â CDLl2 a'r hyn y mae'n ei olygu i Abertawe. Dyddiad cau 18 Ebrill 2025.

LDP2 logo
Bydd CDLl2 yn nodi sut a ble y dylai datblygiad ddod ymlaen i gyd-fynd ag uchelgeisiau twf a nodwyd. Ei nod fydd sicrhau bod y datblygiad cywir yn digwydd yn y lle cywir ar yr adeg gywir, er budd cymunedau a'r economi leol, a bod amddiffyniad digonol yn cael ei roi i'n hamgylchedd naturiol.

Ewch i'n porth ymgynghori i gofrestru'ch manylion er mwyn cael gwybod am ddiweddariadau i CDLl2 yn y dyfodol ac er mwyn i ni ymgynghori â chi fel rhan o ymgynghoriadau yn y dyfodol.

 

Cytundeb cyflawni ddrafft

Y Cytundeb Cyflawni (CC) yw'r cam allweddol cyntaf ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2)

Safleoedd ymgeisiol

Mae safle ymgeisiol yn ardal o dir wedi'i diffinio a gyflwynir i'r cyngor gan barti â diddordeb i'w gynnwys o bosib yn y Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2).

CDLl2 Cynllun cyn adneuo (Strategaeth a Ffefrir)

Bydd y strategaeth a ffefrir yn nodi gweledigaeth, amcanion a pholisïau strategol y cynllun. Mae'n cadarnhau graddfa'r twf a'r strategaeth ofodol eang a gynigir i gyflawni'r twf hwnnw, gan gynnwys cyfleoedd posibl ar raddfa fawr ar gyfer creu lleoedd a datblygu.

Gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gyfer twf

Bydd nodi'r materion, y cyfleoedd a'r heriau allweddol sy'n wynebu Abertawe, a diffinio gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gyfer twf yn gosod yr agenda strategol ar gyfer CDLl2.

Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Caiff y CDLl2 ei lywio gan yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) i sicrhau yr asesir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y CDLl2.

Dogfennau Cefnygol / Tystiolaeth Gefndirol

Mae'n bwysig bod CDLl2 yn seiliedig ar ddata perthnasol a thystiolaeth gyfredol. Mae ystod eang o ddogfennau cefnogol a thystiolaeth gefndirol yn cael eu paratoi i lywio/hysbysu'r cynllun.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Mawrth 2025