Toglo gwelededd dewislen symudol

Adrodd am dipio'n anghyfreithlon

Rhowch wybod i ni am dipio gwastraff cartref neu fusnes yn anghyfreithlon. Mae tipio'n anghyfreithlon yn drosedd ac os cewch eich dal, gallech gael eich erlyn.

Ar dir preifat, cyfrifoldeb perchennog y tir yw clirio'r ardal ac, os yw'n berthnasol, brofi euogrwydd y troseddwr. Lle mae tipio'n anghyfreithlon yn achosi niwsans neu'n peryglu iechyd y cyhoedd, gall y cyngor orfodi perchennog y tir i glirio'r safle.

Os ydych yn meddwl y gallai'r gwastraff fod yn beryglus, dylech ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.

Wrth adrodd am dipio'n anghyfreithlon, mae angen i ni wybod:

  • y dyddiad/amser
  • y lleoliad
  • yr hyn sydd wedi cael ei dipio
  • gwneuthuriad/model a rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd (os yw'n berthnasol)
  • disgrifiad y troseddwr/troseddwyr
  • eich enw ac enwau unrhyw un a oedd gyda chi
  • eich lleoliad pan welsoch chi'r digwyddiad

Bydd angen i chi wneud datganiad i Swyddog Gorfodi a fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i chi trwy gydol yr ymchwiliad. Wrth wneud eich datganiad, mae'n bwysig eich bod yn adrodd am yr hyn a welsoch ac a glywsoch chi yn unig, nid yr hyn a welwyd gan rywun arall.