Toglo gwelededd dewislen symudol

Adrodd am weithred dwyllodrus bosib

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi dioddef o dwyll, rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio'r ffurflen. Mae'r ffurflen hon at ddefnydd preswylwyr Abertawe a phobl y tu allan i Abertawe sy'n tybio bod y twyll wedi cymryd lle yn ein hardal.

Dylech hefyd roi gwybod i Action Fraud am y twyll drwy fynd ar-lein i www.actionfraud.police.uk/report_fraud neu drwy ffonio 0300 123 2040. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn i'w wneud ynghylch twyll ar ein tudalen Rwy'n meddwl y cafwyd twyll ar y wefan hon.

Twyll DVLA

Rydym yn aml yn cael gwybod am e-byst a negeseuon testun twyllodrus sy'n honni eu bod gan y DVLA. Rhwng mis Ebrill a mis Awst 2019, cafwyd gwybod am 91 twyll DVLA ar draws y DU drwy'r ffurflen hon. Roedd y rhan fwyaf o'r bobl hynny wedi derbyn yr un neges destun. Nid yw'r DVLA yn cysylltu ag unrhyw un drwy anfon neges destun. Os ydych chi'n derbyn neges debyg, peidiwch ag anfon unrhyw fanylion ymlaen - ni fydd angen i chi roi gwybod i ni am hyn.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Which yn How to spot DVLA scams. Os ydych chi'n pryderu am unrhyw negeseuon eraill rydych chi'n eu derbyn gan y DVLA neu unrhyw asiantaethau eraill, gallwch roi gwybod amdanynt drwy ddefnyddio'r ffurflen isod.

Close Dewis iaith