Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut gallwch adrodd am rywun rydych yn amau ei fod yn cyflawni twyll?

Helpwch ni i atal, canfod a rhwystro twyll. Os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, dylech adrodd amdanynt ar unwaith.

Gallwch wneud hyn yn gyfrinachol mewn sawl ffordd. Nid oes angen i chi roi'ch enw oni bai eich bod am wneud hynny.

Twyll Budd-dal Tai

Adrodd am Dwyll Budd-dal Tai ar wefan Gov.uk (Yn agor ffenestr newydd)

Gallwch hefyd ffonio 0800 854440 neu ysgrifennu i NBFH, PO Box 224, Preston PR1 1GP.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n gyfrifol am ymchwilio i'r holl dwyll Budd-dal Tai.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor

Adrodd am Dwyll Gostyngiad Treth y Cyngor

Gallwch hefyd ffonio 01792 635359, e-bostio fraud@swansea.gov.uk neu ysgrifennu i'r Tîm Twyll Corfforaethol, Is-adran Archwilio Mewnol, Cyllid a Chyflwyno, Adran Gwasanaethau Corfforaethol, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.

Twyll neu Gamddefnyddio Bathodyn Glas

Adrodd am Dwyll neu Gamddefnyddio Bathodyn Glas

Gallwch hefyd ffonio 01792 637366 neu e-bostio fraud@swansea.gov.uk neu ysgrifennu i'r Tîm Bathodynnau Glas, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN.

Mae ein tudalen Twyll neu Gamddefnyddio Bathodyn Glas yn cynnwys manylion am y mathau o gamddefnyddio neu dwyll y dylid dweud wrthym amdanynt. 

Twyll arall a gyflawnir yn erbyn Dinas a Sir Abertawe

Adrodd am dwyll

Gallwch hefyd ffonio 01792 635359 neu e-bostio fraud@swansea.gov.uk neu ysgrifennu i'r Tîm Twyll Corfforaethol, Is-adran Archwilio Mewnol, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.

Mae enghreifftiau o dwyll arall yn cynnwys y canlynol (nid yw'r rhestr yn gyflawn).

Twyll Tenantiaeth Tai Cyngor

  • Is-osod anghyfreithlon - dyma lle mae'r tenant cyfreithlon yn symud o'r tŷ heb fod y cyngor yn gwybod am hyn, yn parhau i dalu'r rhent ac yn codi rhent uwch ar y preswyliwr anghyfreithlon, gan wneud elw drwy hyn.
  • Ddim yn byw yn yr eiddo neu ddim yn preswylio yno - dyma lle mae gan rywun dŷ cyngor nad yw'n byw ynddo. Bydd y person hwn yn torri ei gytundeb tenantiaeth sy'n nodi:
    • Bod yn rhaid i'r tenant ddefnyddio'r eiddo fel ei brif neu ei unig gartref, a
    • Bod yn rhaid i'r tenant ddweud wrth y swyddfa dai a fydd i ffwrdd o'i gartref am fwy na mis.
  • Ffurflenni cais twyllodrus - dyma lle mae rhywun yn rhoi gwybodaeth anwir ar ei ffurflen gais am dŷ cyngor, hawl i brynu, cyd-gyfnewid neu neillltuo tenantiaeth.
  • Hawlio olyniaeth ar gam - dyma lle mae rhywun nad oes hawl ganddo i wneud hynny, yn ceisio cymryd neu olynu'r denantiaeth. Er enghraifft, efallai bydd y person hwn yn dweud ei fod yn byw gyda'r tenant cyn iddo farw, pan oedd mewn gwirionedd, yn bwy yn rhywle arall.
  • Gwerthu allweddi - dyma lle mae tenant yn cael ei dalu i drosglwyddo allweddi i rywun arall yn gyfnewid am daliad unigol, sydd wedyn yn cymryd y denantiaeth yn anghyfreithlon.
  • Gyda'r galw mawr am dai cymdeithasol, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â  thwyll tenantiaeth tai cyngor i sicrhau bod cartrefi'n cael eu rhoi i'r rhai y mae eu hangen arnynt ac sy'n eu haeddu.Gallai unrhyw un a ganfyddir yn cyflawni twyll o'r math hwn gael ei droi allan o'r eiddo yn ogystal ag wynebu cyhuddiad o drosedd.

Gostyngiad Person Sengl Treth y Cyngor

  • Gall hwn fod yn berson sy'n talu treth y cyngor sy'n derbyn gostyngiad o 25% ar ei dreth y cyngor ond nid yw'n byw ar ei ben ei hun.

Taliadau Uniongyrchol am Ofal

  • Gall hyn fod lle mae unigolyn yn derbyn taliadau gan y cyngor i ddarparu gofal iddo ef ei hun neu berson arall, ond nid yw'r holl arian neu beth ohono'n cael ei wario ar ofal.

Grantiau

  • Gall hyn fod lle nad yw grantiau sy'n cael ei rhoi i unigolion neu sefydliadau i'w cynorthwyo â'u gweithrediadau neu i addasu cartrefi fel eu bod yn addas i anghenion penodol y preswylwyr, yn cael eu defnyddio at y diben bwriadedig.

Twyll Cyflenwr/ Contract

  • Gall hyn fod lle bydd cyflenwr neu gontractwr, yn fwriadol, yn cyflenwi nwyddau neu gynnyrch sy'n is na'r safon neu'n rhatach o ran cost iddynt, pan fo'r cyngor wedi talu am nwyddau neu gynnyrch o safon uwch ac yn eu disgwyl.

 

Gallwch adrodd am unrhyw dwyll nad yw'n ymwneud â Dinas a Sir Abertawe nac yn effeithio arni i Action Fraud

Adrodd am dwyll gan gynnwys troseddau ar-lein - Action Fraud (Yn agor ffenestr newydd)

Gallwch ffonio 0300 123 2040 hefyd.

Close Dewis iaith