Toglo gwelededd dewislen symudol

Twyll

Mae'r term 'twyll' fel arfer yn cynnwys gweithgareddau fel lladrad, llygredd, cynllwyn a llwgrwobrwyo. Mae twyll yn weithred droseddol neu'n weithred drwy anwaith a fwriedir er elw personol neu i beri colled i berson neu sefydliad arall.

Rydym yn ymrwymedig i atal a chanfod pob achos o dwyll ac ymchwilio iddo, boed hwnnw'n cael ei gyflawni y tu mewn i'r cyngor neu o'r tu allan iddo. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad treth y cyngor, bathodynnau glas, tenantiaethau tai cyngor, gofal cymdeithasol, caffael, yswiriant ac unrhyw dwyll arall (er enghraifft lladrad, hawliadau am dreuliau, llwgrwobrwyo, llygredd).

Byddwn yn cymryd yr holl gamau gweithredu priodol i ymchwilio i dwyll a gyflawnir yn erbyn y cyngor gan gynnwys erlyn lle y bo'n briodol.

Byddwn yn mynd ati i adfer colledion a chosbi'r rhai sy'n gyfrifol am y twyll mewn modd priodol.

Adrodd am dwyll Adrodd am dwyll

Beth yw twyll?

Mae'r term 'twyll' fel arfer yn cynnwys gweithgareddau fel lladrad, llygredd, cynllwyn a llwgrwobrwyo.

Mae twyll yn weithred droseddol neu'n weithred drwy anwaith a fwriedir er elw personol neu i beri colled i berson neu sefydliad arall. Mae hyn yn cynnwys:

  • twyllo rhywun yn fwriadol
  • peidio â datgelu gwybodaeth
  • manteisio ar bobl.

Gellir cyflawni twyll yn erbyn unigolion, busnesau neu sefydliadau eraill gan gynnwys cynghorau.

Gall pobl gyflawni twyll yn fewnol yn y cyngor neu'n allanol iddo, naill ai drwy weithredu ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o grŵp. 

Beth yw cost twyll?

Nid yw twyll yn drosedd heb ddioddefwyr a gall effeithio ar bob un ohonom.

  • y gost ariannol - o ran arian, mae twyll yn costio biliynnau o bunnoedd y flwyddyn i'r wlad ac mae'n cynyddu swm y Treth Incwm a'r Treth y Cyngor rydych yn ei dalu. Mae hefyd yn effeithio ar swm yr arian sydd gennym i'w wario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae twyll yn golygu bod llai o arian ar gael i wella a diweddaru cyfleusterau addysgol, tai, gofal cymdeithasol a chludiant.
  • y gost ddynol - Mae costau eraill nad ydynt mor amlwg o ganlyniad i rai mathau o dwyll. Er enghraifft, un o ganlyniadau twyll Tenantiaeth Tai Cyngor yw bod llai o dai/llety ar gael gan amddifadu teuluoedd a phobl ddiamddiffyn sydd ar y rhestr aros.

Beth byddwn yn ei wneud os ydym yn canfod twyll?

Os ydym yn meddwl bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor byddwn yn ymchwilio iddo.Os ydym yn dod o hyd i dystiolaeth i brofi bod person yn cyflawni twyll, gall gael ei erlyn drwy Lys yr Ynadon neu Lys y Goron.

Gall swyddogion y cyngor fod yn destun camau disgyblu hefyd.Gellir cyfeirio cynghorwyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mewn unrhyw achos, rydym bob amser yn ceisio adennill unrhyw golledion ariannol neu faterol.Mewn amgylchiadau penodol, gallwn hefyd geisio atafaelu arian neu asedau ychwanegol os credir eu bod yn elw troseddau.

Sylwer nad ydym yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am achosion unigol oherwydd Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Sut gallwch adrodd am rywun rydych yn amau ei fod yn cyflawni twyll?

Helpwch ni i atal, canfod a rhwystro twyll. Os ydych yn amau bod rhywun yn cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, dylech adrodd amdanynt ar unwaith.

Adrodd am dwyll

Os ydych yn amau bod person neu gwmni'n cyflawni twyll yn erbyn y cyngor, gallwch adrodd amdano drwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.
Close Dewis iaith