Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (ACD)

Mae pob plentyn yn datblygu sgiliau echddygol a chydsymud ar gyfraddau gwahanol. Wrth iddynt dyfu, bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael anawsterau gyda symudiadau manwl (bach) a bras (mawr).

Gelwir hyn yn Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (neu ACD) neu Ddyspracsia. Gall hyn effeithio ar eu gallu i gwblhau llawer o dasgau beunyddiol a byddant yn ymddangos yn drwsgl yn aml.

Arwyddion cyffredinol

Mae llawer o arwyddion o ACD; dyma rai arwyddion cyffredinol a allai ddangos bod gan eich plentyn / person ifanc nam ACD:

  • Cydbwyso gwael
  • Anhawster chwarae gemau pêl
  • Anhawster rheoli pensil
  • Anhawster codi pethau
  • Anhawster defnyddio siswrn.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc ACD a'i fod yn effeithio ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023