Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Mathau o Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae amrywiath eang o anawsterau dysgu ac anghenion dysgu ychwanegol y gall fod gan eich plentyn / person ifanc, a gall y rhain newid a datblygu dros amser.

Yn aml, mae'r meysydd angen yn gorgyffwrdd, neu mewn rhai achosion mae anghenion eich plentyn / person ifanc yn ymwneud yn uniongyrchol ag un maes dysgu.

Mae pob plentyn / person ifanc yn unigryw ac yn wahanol. Gallai sut mae angen ychwanegol yn edrych i un person, fod yn wahanol i berson arall.

Isod, ceir rhestr o wahanol fathau o ADY, rhywfaint o wybodaeth gyffredinol a dolenni i sefydliadau eraill a all ddarparu rhagor o wybodaeth i chi am y maes angen.

Dyslecsia

Mae dyslecsia yn anhawster dysgu sy'n effeithio'n bennaf ar lythrennedd a sgiliau sy'n gysylltiedig ag iaith.

Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (ACD)

Mae pob plentyn yn datblygu sgiliau echddygol a chydsymud ar gyfraddau gwahanol. Wrth iddynt dyfu, bydd rhai plant a phobl ifanc yn cael anawsterau gyda symudiadau manwl (bach) a bras (mawr).

Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASA)

Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd.

Anawsterau Lleferydd ac Iaith

Mae dysgu iaith yn cymryd amser, ac mae plant / pobl ifanc yn amrywio o ran pa mor gyflym y maen nhw'n meistroli cerrig milltir mewn datblygiad lleferydd ac iaith.

Nam ar y golwg

Mae nam ar y golwg yn golygu na fydd gwisgo sbectol yn gallu cywiro'ch golwg.

Byddardod

Byddardod yw anallu unigolyn i glywed synau'n ddigonol.

Nam Amlsynhwyraidd

Mae gan blant a phobl ifanc sydd â nam amlsynhwyraidd namau ar eu golwg a'u clyw.

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)

Defnyddir ADHD i ddisgrifio pobl sy'n arddangos anawsterau tymor hir a all gynnwys diffyg sylw, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.

Anawsterau Dysgu Cymedrol (ADC)

Bydd gan ddysgwyr ag anawsterau dysgu cymedrol gyraeddiadau islaw'r lefelau disgwyliedig ym mhob rhan neu'r rhan fwyaf o feysydd y cwricwlwm.

Anawsterau Corfforol

Gall cael Anhawster Corfforol effeithio ar allu corfforol a / neu symudedd plentyn / person ifanc, naill ai dros dro neu'n barhaol.

Anghenion Dwys a Lluosog

Anabledd dysgu dwys a lluosog (ADDLI) yw pan fydd gan berson anabledd dysgu difrifol ac anableddau eraill sy'n effeithio'n sylweddol ar ei allu i gyfathrebu a bod yn annibynnol.

Dyscalcwlia

Mae dyscalcwlia yn anhawster penodol a pharhaus wrth ddeall rhifau. Gall hyn arwain at amrywiaeth o anawsterau.

Anhwylder Prosesu Synhwyraidd

Mae Anhwylder Prosesu Synhwyraidd (Anhwylder Integreiddio Synhwyraidd gynt) yn gyflwr lle mae'r ymennydd a'r system nerfol yn cael trafferth prosesu neu integreiddio ysgogiad.

Syndrom Down

Achosir Syndrom Down gan bresenoldeb copi ychwanegol o gromosom 21. Nid yw'n gyflwyr etifeddol ac mae'n digwydd trwy hap a damwain ar adeg beichiogi'r plentyn.

Anhwylder Datblygu Iaith

Anhwylder Datblygu Iaith yw'r term newydd i ddisodli Nam Iaith Penodol.

Anghenion Iechyd Cymhleth

Efallai bod eich plentyn / person ifanc wedi cael diagnosis o anghenion iechyd cymhleth. Gall hyn gynnwys salwch, anabledd neu nam ar y synhwyrau.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023