Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anawsterau Dysgu Cymedrol (ADC)

Bydd gan ddysgwyr ag anawsterau dysgu cymedrol gyraeddiadau islaw'r lefelau disgwyliedig ym mhob rhan neu'r rhan fwyaf o feysydd y cwricwlwm.

Mae angen addasu'r cwricwlwm ar gyfer llawer o blant ag anawsterau dysgu cymedrol fel rhan o gefnogaeth gyffredinol a gallent dderbyn ymyriadau wedi'u targedu. Mae angen monitro cynnydd dysgwyr ag anawsterau dysgu cymedrol er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth y maent yn ei chael yn parhau i fod yn briodol.

Arwyddion cyffredionl

Mae llawer o arwyddion o Anawsterau Dysgu Cymedrol; dyma rai arwyddion cyffredinol a allai ddangos bod eich plentyn yn cael anhawster cymedrol.

Yr arwyddion cyffredinol i chwilio amdanynt yw:

  • Bod ganddo sgiliau gwrando / talu sylw anaeddfed
  • Oedi mewn sgiliau lleferydd ac iaith
  • Anhawster wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol a chyraeddiadau eraill
  • Mwy o anhawster na'i gyfoedion gyda thasgau pob dydd
  • Hunan-barch isel
  • Cymhelliad gwael
  • Bod ganddo rai anawsterau cydsymud echddygol.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc Anhawster Dysgu Cymedrol sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023