Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anghenion Dwys a Lluosog

Anabledd dysgu dwys a lluosog (ADDLI) yw pan fydd gan berson anabledd dysgu difrifol ac anableddau eraill sy'n effeithio'n sylweddol ar ei allu i gyfathrebu a bod yn annibynnol.

Efallai y bydd gan rywun sydd ag ADDLI anawsterau difrifol gyda'i olwg, ei glyw, wrth siarad ac wrth symud.

Mae gan blant / bobl ifanc sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog fwy nag un anabledd, a'r mwyaf arwyddocaol ohonynt yw anabledd dysgu dwys. Bydd pob person ag anableddau dysgu dwys a lluosog yn cael cryn anhawster cyfathrebu. Bydd gan lawer o bobl anableddau synhwyraidd neu gorfforol ychwanegol, anghenion iechyd cymhleth neu anawsterau iechyd cymhleth neu anawsterau iechyd meddwl. Gall y cyfuniad o'r anghenion hyn a / neu ddiffyg y cymorth cywir hefyd effeithio ar ymddygiad.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc anawsterau dwys neu luosog sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023