ADY - Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)
Defnyddir ADHD i ddisgrifio pobl sy'n arddangos anawsterau tymor hir a all gynnwys diffyg sylw, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.
Gall plant / pobl ifanc sydd ag ADHD gael anhawster rhoi sylw i bethau neu reoli ymddygiadau byrbwyll. Gall plant / pobl ifanc ymddwyn heb feddwl am y canlyniad neu fod yn orfywiog. I blentyn neu berson ifanc gael diagnosis o ADHD, byddai angen iddo ddangos anawsterau ym mhob un o'r meysydd uchod, mewn amrywiaeth o leoliadau dros gyfnod estynedig.
Tueddiadau / nodweddion cyffredinol
Wrth archwilio tueddiadau cyffredinol, mae'n bwysig nodi bod angen i'r tueddiadau / nodweddion fod yn digwydd mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau; eu bod yn cael effaith ar allu plentyn / person ifanc i ddysgu a'u bod yn gallu cyfrannu at gysylltiadau cymdeithasol gwael. Mae'r canlynol yn nodweddion / dueddiadau y bydd angen i weithwyr proffesiynol arsylwi arnynt:
- Methu eistedd yn llonydd
- Gwneud camgymeriadau diofal mewn gwaith ysgol neu mewn gweithgareddau eraill
- Cael anhawster trefnu tasgau a gweithgareddau
- Yn aml yn codi o'i sedd mewn sefyllfaoedd pan fo disgwyl iddo aros ar ei eistedd
- Symudiad gormodol - bob amser ar fynd
- Anhawster canolbwyntio ar dasgau neu wrth chwarae
- Yn aml nid yw'n ymddangos ei fod yn gwrando pan fydd rhywun yn siarad af ef yn uniongyrchol
- Ym aml nid yw'n dilyn cyfarwyddiadau i'r pen ac yn methu gorffen gwaith ysgol
- Tynnir ei sylw'n hawdd oddi ar bethau'n aml
- Mae'n aml yn anghofus mewn gweithgareddau dyddiol
- Gweithredu heb feddwl
- Dim synnwyr o berygl.
Camau nesaf
Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc ADHD ac mae'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.
Diagnosis
Wrth edrych ar ADHD os ydych chi'n penderfynu archwilio diagnosis yr awdurdod iechyd, gall y broses hon gymryd tua 24 mis ar ôl i'r atgyfeiriad gael ei dderbyn.