ADY - Anhwylder Prosesu Synhwyraidd
Mae Anhwylder Prosesu Synhwyraidd (Anhwylder Integreiddio Synhwyraidd gynt) yn gyflwr lle mae'r ymennydd a'r system nerfol yn cael trafferth prosesu neu integreiddio ysgogiad.
Arwyddion cyffredinol
Mae llawer o arwyddion o anhwylder prosesu synhwyraidd; dyma rai arwydion cyffredinol a allai ddangos bod gan eich plentyn / person ifanc anawsterau.
Yr arwyddion cyffredinol i chwilio amdanynt yw:
- 'Wedi'i lethu' gan orlwytho synhwyraidd
- Nid yw'n ymateb i boen, gwres, neu oerfel yn ôl y disgwyl
- Anhawster rheoli newidiadau mewn arferion dyddiol
- Cydsymud a chydbwysedd
- Mynd yn rhy agos at bobl neu chwarae'n gas
- Rhoi cynnig ar fwydydd newydd
- Rheoli emosiynau.
Camau nesaf
Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc Anhwylder Prosesu Synhwyraidd sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.