Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anhwylder Prosesu Synhwyraidd

Mae Anhwylder Prosesu Synhwyraidd (Anhwylder Integreiddio Synhwyraidd gynt) yn gyflwr lle mae'r ymennydd a'r system nerfol yn cael trafferth prosesu neu integreiddio ysgogiad.

Arwyddion cyffredinol

Mae llawer o arwyddion o anhwylder prosesu synhwyraidd; dyma rai arwydion cyffredinol a allai ddangos bod gan eich plentyn / person ifanc anawsterau.

Yr arwyddion cyffredinol i chwilio amdanynt yw:

  • 'Wedi'i lethu' gan orlwytho synhwyraidd
  • Nid yw'n ymateb i boen, gwres, neu oerfel yn ôl y disgwyl
  • Anhawster rheoli newidiadau mewn arferion dyddiol
  • Cydsymud a chydbwysedd
  • Mynd yn rhy agos at bobl neu chwarae'n gas
  • Rhoi cynnig ar fwydydd newydd
  • Rheoli emosiynau.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc Anhwylder Prosesu Synhwyraidd sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023