ADY - Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASA)
Mae awtistiaeth yn anabledd datblygiadol gydol oes sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â'r byd.
Arwyddion cyffredinol
Mae llawer o arwyddion o ASA; dyma rai arwyddion cyffredinol a allai ddangos bod gan eich plentyn / person ifanc nodweddion ASA:
- Cael trafferth gyda chyfathrebu geiriol a dieiriau
- Anhawster gwneud cyswllt llygad
- Anhawster adnabod a dangos emosiynau
- Cymryd tro mewn sgyrsiau
- Mae bwrw amcan o ofod personol yn heriol
- Teimlo wedi'u llethu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol
- Ymddygiad ailadroddus - arferion dyddiol llym
- Diddordeb prin neu eithafol.
Camau nesaf
Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASA) a'i fod yn cael effaith ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.
Diagnosis
Wrth edrych ar ASD os ydych chi'n penderfynu archwilio diagnosis yr awdurdod iechyd, gall y broses hon gymryd tua 29 mis ar ôl i'r atgyfeiriad gael ei dderbyn.