Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Addysg bellach

Yn Abertawe, mae coleg Gŵyr yn cynnig cyfle i oedolion ifanc barhau â'u haddysg.

Mae Coleg Gŵyr yn cynnig y canlynol:

Addysg Uwch - Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC) Graddau, Graddau Sylfaen, cymwysterau Proffesiynol.

Prentisiaethau - hyfforddiant yn y gwaith lle cewch eich cefnogi a'ch hyfforddi wrth gael eich talu.

Sgiliau byw'n annibynnol (ILS) - mae ystod o gyrsiau llawn amser a rhan-amser ar gael, wedi'u teilwra i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu, anghenion dysgu ychwanegol a / neu ofynion ymddygiadol.

Mae gan y coleg amrywiaeth o leoliadau sy'n cynnig ystod eang o gyrsiau:

  • Campws Gorseinon
  • Campws Tŷ Coch
  • Campws Llwyn y Bryn - Uplands
  • Llys Jiwbilî, Fforest-fach

Pa gwrs sy'n iawn i fi?

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau sydd ar gael, gallwch edrych ar brosbectws Coleg Gŵyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) neu gallwch fynd i noson agored i siarad â darlithwyr a staff cymorth anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Rwy'n meddwl am gofrestru ac mae gen i anghenion dysgu ychwanegol, beth ydw i'n ei wneud?

Mae ymgynghorwyr o Goleg Gŵyr yn ymweld â llawer o ysgolion o gwmpas yr ardal er mwyn eich cefnogi os ydych chi'n meddwl am fynd i'r coleg.

Os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol ac yn bwriadu dilyn cwrs ar Lefel 1 neu uwch yna e-bostiwch Ffion Davies yn ffion.davies@gowercollegeswansea.ac.uk.

Os ydych chi'n bwriadu mynd i'r adran Sgiliau Byw'n Annibynnol yna e-bostiwch Sarah Evans yn sarah.evans@gowercollegeswansea.ac.uk.

Bwriad y coleg yw mynd i bob adolygiad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (CDU) ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 11 ac maent yn hapus i fynd i adolygiadau ym mlwyddyn 9 a 10 os gofynnir iddynt wneud hynny. Mae staff Coleg Gŵyr ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cwrs a'r coleg, gallwch anfon e-bost atynt admissions@gcs.ac.uk.

Beth yw Sgiliau Byw'n Annibynnol (SBA)?

Mae Sgiliau Byw'n Annibynnol yn gwrs a fydd yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer bywyd fel oedolyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon am Sgiliau Byw'n Annibynnol, yna e-bostiwch Sara Evans yn sarah.evans@gowercollegeswansea.ac.uk.

Sut rydw i'n gwneud cais?

Gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Coleg Gŵyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd).

Os ydych yn ddisgybl mewn ysgol yn Abertawe, gallwch ymgeisio drwy 'Fy Newis i' a fydd yn mynd â chi'n uniongyrchol i'r wefan.

Po gynharaf y gwnewch gais, mwyaf o siawns sydd gennych o sicrhau lle ar eich cwrs dewis cyntaf.

Beth sy'n digwydd ar ôl i fi gyflwyno cais?

Ar ôl i chi wneud cais, bydd y tîm derbyniadau'n cysylltu â chi ynglŷn â'ch cais am le yn y coleg. Byddant yn eich cefnog wrth bontio i'r coleg.

Os oes gennych angen dysgu ychwanegol, byddwch yn cael cynnig cyfarfod ym mis Mawrth lle gwahoddir myfyrwyr a rhieni i'r coleg. Bydd eich anghenion yn cael eu trafod gan gynnwys unrhyw gefnogaeth y bydd angen ei rhoi ar waith ar gyfer dechrau'r tymor (Medi).

Faint o amser fydda i'n ei dreulio yn y coleg?

Mae cyrsiau amser llawn yn 17 awr yr wythnos, gall hyn fod dros 3 neu 4 diwrnod.

Gall cyrsiau rhan-amser amrywio o 2 awr y wythnos i 2 ddiwrnod yr wythnos.

Mae cyrsiau SBA rhan-amser yn cael eu cynnal dros 1 neu 2 ddiwrnod yr wythnos.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i fi?

Mae gan y coleg staff arbenigol sy'n gallu cefnogi anghenion dysgu ychwanegol ac anebleddau.

Yn y coleg, y nod yw sicrhau eich bod yn dod yn fwy annibynnol ac bod wedi'ch paratoi'n well ar gyfer y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg, bydd y coleg hefyd yn darparu cymorth a hyfforddiant technoleg gynorthwyol.

Mae gan bob campws le tawel sydd ar gael i ddisgyblion ei ddefnyddio. Mae gan y man tawel gyfleusterau y gallwch eu defnydio fel mynediad at gyfrifiadur personl, cefnogaeth y tu allan i'r dosbarth a chwnsela.

Cymorth Ariannol

Bydd cymorth ariannol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Yr opsiynau cyllido sydd ar gael yw:

  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
  • Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
  • Grant Dysgu Llywodraeth Cymru.

Beth yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)?

Taliad ar gyfer pobl ifanc 16 i 18 oed sy'n byw yng Nghymru, sydd am barhau â'u haddysg ar ôl oedran gadael ysgol. Os ydych chi'n 16-18 oed, byddwch yn derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) os ydych yn dod o deulu incwm isel (bydd hyn yn destun prawf modd). I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choleg Gŵyr Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) neu ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Beth yw Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)?

Mae'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn gynllun heb brawf modd, a ariennir gan y llywodraeth sy'n gallu talu am unrhyw gymorth i fyfyrwyr sydd ag anabledd, gan gynnwys anawsterau dysgu penodol, er mwyn diwallu eu hanghenion unigol.

Gall y coleg eich helpu i wneud cais ar gyfer Lwfans i Fyfyrwyr Ababl a threfnu bod cymorth wedi'i ariannu'n cael ei roi yn ei le. Unwaith y bydd eich cais wedi'i gymeradwyo gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (Yn agor ffenestr newydd), bydd angen i chi fynd i asesiad o anghenion lle cewch gyfle i drafod y gefnogaeth sydd ei angen arnoch.

Sut i wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

Bydd angen i chi lenwi ffurflen DSA1 a darparu tystiolaeth o'ch cyflwr. Gall y coleg eich helpu gyda'r broses hon. Gallwch wneud cais cyn i chi ddechrau, neu yn ystod eich cwrs. Mae'n well gwneud cais cyn gynted â phosib fel bod modd rhoi'r cymorth y mae ei angen arnoch gan y gall gymryd amser i'ch cais gael ei gymeradwyo. Mae rhagor o wybodaeth am Iwfansau i fyfyrwyr anabl ar (Yn agor ffenestr newydd) gael ar Gov.uk.

Beth yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru?

Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru yn grant sy'n destun prawf modd sy'n ceisio annog mwy o bobl i barhau â'u haddysg. Mae'n darparu cyllid i helpu gyda chostau eich addysg os ydych yn 19 oed neu'n hŷn. Os ydych chi'n astudio'n amser llawn gallech gael taliadau o hyd at £1,500 y flwyddyn neu, os ydych yn astudio'n rhan-amser, gallech gael hyd at £750 y flwyddyn.

Sut i wneud cais am y grant Dysgu Cymraeg

Bydd angen i chi weld a ydych yn gallu gwneud cais am y grant drwy fynd i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru (Yn agor ffenestr newydd).

Cludiant

Ar hyn o bryd mae myfyrwyr amser llawn yn cael cynnig pàs bws â chymhorthdal. Gellir prynu pasysbws wrth i chi gofrestru neu o Wasanaethau Myfyrwyr yn y coleg.

Mae rhagor o wybodaeth am basys bws ar gael ar wefan y coleg (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023