ADY - Ôl 16 / 19
Pan fyddwch yn cyrraedd 16 oed, mae nifer o opsiynau a allai fod yn agored i chi, gan gynnwys addysg bellach neu fentro i fyd gwaith.
Mae'n bwysig nodi, lle'r ydych eisoes wedi cael dwy flynedd neu fwy o addysg bellach neu hyfforddiant, nid oes sicrwydd y cewch fynediad at fwy. Nid oes unrhyw hawl i addysg neu hyfforddiant parhaus, na hawl i ddarpariaeth o'ch dewis (er bod yn rhaid ystyried eich barn, eich dymuniadau a'ch teimladau).
Cyfnod pontio ôl - 16
Wrth symud o un lleoliad i'r llall, mae cynllunio'r symud yn ofalus yn hanfodol.
Chweched dosbarth
Pan fyddwch yn cyrraedd 16 oed, efallai yr hoffech fynd i'r chweched dosbarth. Gall chweched dosbarth fod yn rhan o ysgol gyfun gan olygu y bydd addysg y dysgwr yn para hyd nes ei fod yn 18 oed.
Addysg bellach
Yn Abertawe, mae coleg Gŵyr yn cynnig cyfle i oedolion ifanc barhau â'u haddysg.
Colegau arbenigol
Gall colegau arbenigol gynnig darpariaeth ddydd neu breswyl i fyfyrwyr 16 i 25 oed, gan roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau, dysgu a dod yn fwy annibynnol.
Gwasanaethau dydd i oedolion ifanc ag ADY / anabledd dysgu
Mae nifer o wahanol wasanaethau dydd ar gyfer oedolion ifanc sydd ag ADY neu anabledd dysgu.
Gwaith, hyfforddiant a gwirfoddoli
Os nad ydych chi'n siŵr beth hoffech chi ei wneud ar ôl i chi adael yr ysgol neu'r coleg, mae yna nifer o opsiynau y gallwch eu harchwilio.
Cludiant i'r ysgol / coleg
Cwestiynau cyffredin am gludiant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol / coleg i'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2023