ADY - Addysg Ddewisol yn y Cartref - plant ag anghenion dysgu ychwanegol
Mae hawl y rhieni i addysgu eu plentyn yn y cartref yr un mor berthnasol os oes gan y plentyn hwnnw anghenion dysg ychwanegol (ADY).
Mae'n rhaid i'r rhieni sicrhau bod darpariaeth addas ar gyfer anghenion arbennig y plentyn, ond oherwydd y newid yn lleoliad addysgol y plentyn, gall y ddarpariaeth hon fod yn wahanol i'r hyn a amlinellir yn y datganiad neu'r CDU a fyddai'n gymwys mewn lleoliad ysgol.
Os yw trefniadau'r rhieni'n addas, nif ydd dyletswydd ar yr ALI i drefnu'r ddarpariaeth a nodwyd yn y datganiad mwyach. Fodd bynnag, os nad yw trefniadau'r rhieni'n diwallu anghenion y plentyn, nid yw'r rhieni'n gwneud trefniadau addas felly, a bydd yr ALI yn gyfrifol am drefnu'r ddarpariaeth sy'n cael ei nodi yn y datganiad. Ymgynghorir â Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Awdurdod Lleol ynghylch y materion hyn.
Pan fo gan blentyn ddatganiad o anghenion addysgol arbennig neu CDU a'i fod yn cael ei addysgu gartref, nid yw'r datganiad neu'r CDU yn dod i ben yn awtomatig. Tra bod y datganiad / CDU yn cael ei gynnal, mae'n rhaid ei adolygu'n flynyddol.
Yn achos plant sy'n cael eu haddysgu gartref, yn ôl Adran 324 (4A) o Ddeddf Addysg 1996, nid oes angen darparu enw ysgol yn Rhan 4 y datganiad. Bydd trafodaeth rhwng yr awdurdod a'r rhieni ac, yn hytrach nag enwi'r ysgol, dylai Rhan 4 y datganiad grybwyll y math o ysgol y mae'r awdurdod lleol yn ei hystyried yn briodol, ond dylai hefyd grybwll y: 'gwnaed trefniadau gan y rhieni o dan Adran 7 Deddf Addysg 1996'.