Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anawsterau Corfforol

Gall cael Anhawster Corfforol effeithio ar allu corfforol a / neu symudedd plentyn / person ifanc, naill ai dros dro neu'n barhaol.

Ambell waith gall hyn arwain at golli rheolaeth o'i gyhyrau, ei symudiad neu ei symudedd neu mae eu gweithrediad yn gyfyngedig.

Mae llawer o wahanol achosion o anawsterau corfforol, gan gynnwys anhwylderau etifeddol neu enetig, afiechydon difrifol, ac anafiadau, fel:

  • Anaf i'r ymennydd
  • Parlys yr ymennydd
  • Nychdod cyhyrol
  • Epilepsi
  • Anaf i fadruddyn y cefn
  • Spina Bifida
  • Arthritis plentyndod

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc anhawster corfforol, cysylltwch â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf.

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc Anhawster Corfforol sy'n effeithio ar ei ddysgu, siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Gallwch hefyd gysylltu â Hafan-y-Môr yn Ysbyty Singleton a fydd yn eich cefnogi i wneud atgyfeiriad i'r adran Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023