Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anawsterau Lleferydd ac Iaith

Mae dysgu iaith yn cymryd amser, ac mae plant / pobl ifanc yn amrywio o ran pa mor gyflym y maen nhw'n meistroli cerrig milltir mewn datblygiad lleferydd ac iaith.

Ambell waith, gall plant / pobl ifanc ei chael hi'n anodd dysgu gwahanol agweddau ar leferydd ac iaith ac efallai y bydd angen help arnynt. Efallai na fyddant yn meistroli'r cerrig milltir iaith ar yr un pryd â phlant / pobl ifanc eraill, a gall fod yn arwydd o anhawster lleferydd neu iaith.

Arwyddion cyffredinol

Mae llawer o arwyddion o anhawster lleferydd ac iaith; dyma rai arwyddion cyffredinol a allai ddangos bod gan eich plentyn / person ifanc anhawster lleferydd ac iaith:

  • Nid yw'n deall beth mae eraill yn ei ddweud
  • Nid yw'n clywed y geiriau
  • Nid yw'n gwybod y geiriau i'w defnyddio
  • Cael trafferth ffurfio geiriau neu synau penodol yn gywir
  • Cael trafferth gwneud i eiriau neu frawddegau lifo'n llyfn, fel siarad ag atal dweud
  • Oediad iaith - mae'r gallu i ddeall a siarad yn datblygu'n arafach na'r hyn sy'n nodweddiadol
  • Anhawster deall ystyr y synau y mae'r glust yn eu hanfon i'r ymennydd.

Camau nesaf

Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc anawsterau lleferydd ac iaith a'u bod yn effeithio ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / colege eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'ch Ymwelydd Iechyd.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023