ADY - Anghenion Iechyd Cymhleth
Efallai bod eich plentyn / person ifanc wedi cael diagnosis o anghenion iechyd cymhleth. Gall hyn gynnwys salwch, anabledd neu nam ar y synhwyrau.
Efallai y bydd angen cryn dipyn o gymorth ychwanegol dwys yn ddyddiol. Gall fod gan blentyn / berson ifanc anghenion cymhleth o'i enedigaeth, neu ar ôl salwch neu anaf.
Camau nesaf
Os ydych chi'n poeni y gall fod gan eich plentyn / person ifanc anghenion eichyd cymhleth, cysylltwch â'ch meddyg teulu.
Os ydych chi'n poeni bod anghenion iechyd cymhleth eich plentyn / person ifanc yn cael effaith ar ei ddysgu, siaradwch ag ysgol / coleg eich plentyn / person ifanc. Siaradwch â'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a byddant yn gallu gweithio gyda chi a phennu'r hyn sy'n digwydd nesaf. Os yw'ch plentyn dan 5 oed, mae angen i chi siarad â'r Ymwelydd Iechyd.