Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Anghytuno â phenderfyniad yr ysgol / coleg

Pan fyddwch yn anghytuno â phenderfyniad yr ysgol / coleg ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol a / neu ddarpariaeth.

Mae'n hanfodol eich bod yn siarad â'r ysgol / coleg cyn gynted â phosib. Gallwch siarad â'r athro dosbarth, y CADY neu'r Pennaeth a byddant yn gweithio gyda chi i geisio datrys unrhyw broblemau. Dylai hyn roi cyfle i fynd i'r afael â materion a'u datrys yn brydlon ac atal anghytundebau rhag gwaethygu.

Rwyf wedi siarad â'r ysgol / coleg ac mae angen mwy o gymorth arnaf i. Â phwy y dylwn i gysylltu?

Os ydych yn anfodlon ar y penderfyniad, gallwch ofyn am gefnogaeth gan y gweithwyr achos ADY. Mae'r Gweithwyr Achos yn cydweithio â'r holl blant, pobl ifanc, rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd drwy adolygiad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn ceisio sicrhau'r canlyniadau gorau i ddysgwyr. Maent yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bawb mewn ffordd agored, onest a thryloyw. Gellir ebostio'r gweithwyr acho drwy e-bost yn caseworker@abertawe.gov.uk

Mae angen mwy o gefnogaeth arnaf i fynegi fy marn. Pwy all fy helpu?

Gall Eiriolaeth Annibynnol fod ar gael i blant a phobl ifanc i'w helpu i fynegi eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau.

Gall hyn fod oherwydd bod y plentyn / person ifanc am:

  • Drefnu i osgoi neu ddatrys anghytundebau neu fwriadu trefnu i osgoi neu ddatrys anghytundebau.
  • Cyflwyno apêl i'r Tribiwnlys, neu'n bwriadu gwneud hynny.
  • Ystyried a ddylid apelio i'r Tribiwnlys.

Sut gallaf i drefnu eiriolaeth?

Gellir cael mynediad at eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc trwy weithwyr achos ADY.

Close Dewis iaith