ADY - Chweched dosbarth
Pan fyddwch yn cyrraedd 16 oed, efallai yr hoffech fynd i'r chweched dosbarth. Gall chweched dosbarth fod yn rhan o ysgol gyfun gan olygu y bydd addysg y dysgwr yn para hyd nes ei fod yn 18 oed.
Mae'r ysgolion canlynol yn Abertawe yn cynnig y chweched dosbarth fel rhan o'u darpariaeth:
Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan
Cysylltwch â'r ysgol os ydych yn dymuno ymweld â hi.
Sut mae gwneud cais am le yn y chweched dosbarth?
Os ydych am wneud cais am le yn y chweched dosbarth, gallwch wneud cais am le yn un o ysgolion Abertawe a restrir uchod yn nhymor y gwanwyn cyn i chi geisio am le ar gyfer y mis Medi canlynol. Mae trefniadau manwl ynghylch derbyniadau i'r chweched dosbarth i'w gweld yma.
Os ydych yn dymuno mynd i chweched dosbarth Ysgol Pen-y-Bryn bydd angen i chi siarad â'ch ysgol bresennol ym mlwyddyn 9 a 10 i weld a hw hyn yn opsiwn. Y cyngor sy'n penderfynu ar bob lleoliad ysgol arbennig, bydd angen i'ch ysgol bresennol wneud cais i fynd iddi os yw'n briodol.
Sut byddaf yn gwybod a oes gen i le?
Bydd yr ysgol yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi. Efallai y bydd angen graddau penodol arnoch i fynd iddi ond bydd yr ysgol yn cadarnhau hyn.
Os oes gennych le yn Ysgol Pen-y-Bryn, bydd gweithiwr achos ADY y cyngor yn gallu rhoi adborth i chi yn dilyn cyfarfod panel amlasiantaeth.
Pwy sy'n ymwneud â phanel amlasiantaeth?
Mae panel amlasiantaeth yn cynnwys un o swyddogion y cyngor, penaethiaid, CADYau, therapyddion iaith a lleferydd, athrawon arbenigol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr addysg a SNAP Cymru. Maent yn gweithio ar y cyd i edrych ar y wybodaeth sydd wedi'i rhannu i wneud argymhellion ynglŷn â darpariaeth a chefnogaeth.
Sut byddan nhw'n cefnogi fy anghenion dysgu ychwanegol?
Gwahoddir yr ysgol i fynd i Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, lle gallwch rannu'ch barn a'ch meddyliau cyn mynd iddi. Byddant yn edrych ar unrhyw gefnogaeth sydd gennych ar waith yn eich ysgol bresennol a byddant yn trafod gyda chi'r hyn sydd ei angen yn y chweched dosbarth. Bydd cyfnod o drawsnewid cyn dechrau yno a dylai eich cfnogaeth fod ar waith o'r adeg y byddwch yn dechrau.