Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Chweched dosbarth

Pan fyddwch yn cyrraedd 16 oed, efallai yr hoffech fynd i'r chweched dosbarth. Gall chweched dosbarth fod yn rhan o ysgol gyfun gan olygu y bydd addysg y dysgwr yn para hyd nes ei fod yn 18 oed.

Mae'r ysgolion canlynol yn Abertawe yn cynnig y chweched dosbarth fel rhan o'u darpariaeth:

Ysgol yr Esgob Gore

Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan

Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Ysgol Gyfun Treforys

Ysgol yr Olchfa

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Ysgol Gyfun Gŵyr

Ysgol Pen-y-Bryn

Cysylltwch â'r ysgol os ydych yn dymuno ymweld â hi.

Sut mae gwneud cais am le yn y chweched dosbarth?

Os ydych am wneud cais am le yn y chweched dosbarth, gallwch wneud cais am le yn un o ysgolion Abertawe a restrir uchod yn nhymor y gwanwyn cyn i chi geisio am le ar gyfer y mis Medi canlynol. Mae trefniadau manwl ynghylch derbyniadau i'r chweched dosbarth i'w gweld yma.

Os ydych yn dymuno mynd i chweched dosbarth Ysgol Pen-y-Bryn bydd angen i chi siarad â'ch ysgol bresennol ym mlwyddyn 9 a 10 i weld a hw hyn yn opsiwn. Y cyngor sy'n penderfynu ar bob lleoliad ysgol arbennig, bydd angen i'ch ysgol bresennol wneud cais i fynd iddi os yw'n briodol.

Sut byddaf yn gwybod a oes gen i le?

Bydd yr ysgol yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi. Efallai y bydd angen graddau penodol arnoch i fynd iddi ond bydd yr ysgol yn cadarnhau hyn.

Os oes gennych le yn Ysgol Pen-y-Bryn, bydd gweithiwr achos ADY y cyngor yn gallu rhoi adborth i chi yn dilyn cyfarfod panel amlasiantaeth.

Pwy sy'n ymwneud â phanel amlasiantaeth?

Mae panel amlasiantaeth yn cynnwys un o swyddogion y cyngor, penaethiaid, CADYau, therapyddion iaith a lleferydd, athrawon arbenigol, gweithwyr cymdeithasol, seicolegwyr addysg a SNAP Cymru. Maent yn gweithio ar y cyd i edrych ar y wybodaeth sydd wedi'i rhannu i wneud argymhellion ynglŷn â darpariaeth a chefnogaeth.

Sut byddan nhw'n cefnogi fy anghenion dysgu ychwanegol?

Gwahoddir yr ysgol i fynd i Adolygiad sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, lle gallwch rannu'ch barn a'ch meddyliau cyn mynd iddi. Byddant yn edrych ar unrhyw gefnogaeth sydd gennych ar waith yn eich ysgol bresennol a byddant yn trafod gyda chi'r hyn sydd ei angen yn y chweched dosbarth. Bydd cyfnod o drawsnewid cyn dechrau yno a dylai eich cfnogaeth fod ar waith o'r adeg y byddwch yn dechrau.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mawrth 2023