Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Cludiant i'r ysgol / coleg

Cwestiynau cyffredin am gludiant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol / coleg i'r rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Rwyf wedi cael adborth gan y Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol fod fy mhlentyn / person ifanc yn gymwys am gludiant o'r cartref i'r ysgol - beth sy'n digwydd nesaf?

Mae fy mhlentyn / person ifanc yn gymwys am gludiant, pa mor hir y bydd yn ei gymryd i roi'r ddarpariaeth ar waith?

A yw Cyngor Abertawe'n darparu cludiant i fy mhlentyn / person ifanc fynd i gyfleuster addysgu arbenigol neu ysgol arbennig?

Rwyf wedi defnyddio fy hawl fel rhiant i benderfynu pa ysgol y mae fy mhlentyn / person ifanc sydd â datganiad o AAA neu CDU yn ei mynychu. Beth mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â cymhwysedd ar gyfer cludiant?

Sut caiff y llwybr cerdded ei fesur?

Nid yw cludiant yn cael ei grybwyll yn natganiad AAA fy mhlentyn / person ifanc neu ei Gynllun Datblygu Unigol. Pam?

Mae fy mhlentyn / fy mherson ifanc yn gymwys am gludiant a hoffwn ofyn i weithredwr cludiant penodol fynd â fy mhlentyn i'r ysgol - ydy hyn yn bosib?

Mae fy mhlentyn / fy mherson ifanc yn mynychu cwrs ôl-16 - a yw'n gymwys am gludiant?

A fydd fy mhlentyn yn cael ei gasglu o'r coleg am amser penodol?

A fydd cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer parhad y cwrs?

Nid yw fy mhlentyn yn gymwys am gludiant i'r coleg, fodd bynnag mae cludiant yn angenrheidiol yn fy marn i. A oes ffordd o wneud cais ar ran disgyblion nad ydynt yn gymwys?

Hoffwn ragor o wybodaeth ynghylch y rheolau a ddilynir gan y cyngor mewn perthynas â chludiant?

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

 

Rwyf wedi cael adborth gan y Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol fod fy mhlentyn / person ifanc yn gymwys am gludiant o'r cartref i'r ysgol - beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ystyried cludiant o'r cartref i'r ysgol wrth benderfynu ar yr ysgol addas agosaf ar gyfer y plentyn / person ifanc. Os yw'r ysgol addas agosaf a enwyd dros y pellter statudol, bydd y plentyn / person ifanc yn 'gymwys yn awtomatig' am gludiant. Bydd yr ysgol y bydd eich plentyn / plentyn ifanc yn ei mynychu yn llenwi ffurflen gais am gludiant a gwneir hyn fel arfer yn y cyfarfod derbyn. Mae'n bwysig bod y ffurflen hon yn cael ei llenwi'n llawn fel bod darparwyr cludiant yn ymwybodol o anghen / anghenion eich plentyn / person ifanc.

Mae fy mhlentyn / person ifanc yn gymwys am gludiant, pa mor hir y bydd yn ei gymryd i roi'r ddarpariaeth ar waith?
Os yw'ch plentyn / person ifanc yn gymwys am gludiant, bydd yr ysgol y bydd eich plentyn / person ifanc yn ei mynychu yn llenwi ffurflen cais am gludiant, a gwneir hyn fel arfer yn y cyfarfod derbyn. Gall gymryd deng niwrnod gwaith i'r cludiant ddechrau. Ar achlysuron prin, gall gymryd mwy o amser oherwydd argaeledd gweithredwyr.

A yw Cyngor Abertawe'n darparu cludiant i fy mhlentyn / person ifanc fynd i gyfleuster addysgu arbenigol neu ysgol arbennig?
Yn ôl Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant i ddisgyblion sy'n gymwys. Mae'r cyngor yn darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr os yw eu hysgol addas agosaf ymhellach na'r pellter statudol. Ar gyfer disgyblion o oedran ysgol gynradd, mae'n rhaid eu bod o oedran ysgol gorfodol ac yn breswylydd, neu'n derbyn gofal gan y cyngor. Mae'n rhaid iddynt hefyd fynychu eu hysgol addas agosaf neu ysgol ddynodedig, a byw 2 filltir neu fwy i ffwrdd o'r ysgol honno. Ar gyfer disgyblion oedran uwchradd, rhaid eu bod yn byw tair 3 milltir neu fwy i ffwrdd o'r ysgol honno.

Rwyf wedi defnyddio fy hawl fel rhiant i benderfynu pa ysgol y mae fy mhlentyn / person ifanc sydd â datganiad o AAA neu CDU yn ei mynychu. Beth mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer cludiant?
Os bydd rhiant yn defnyddio'i ddewis fel rhiant wrth benderfynu pa ysgol y bydd ei blentyn / berson ifanc yn ei mynychu ac nid honno yw'r ysgol addas agosaf a gytunwyd gan y cyngor, nid oes gan y dysgwr hawl i gael darpariaeth cludiant am ddim - hyd yn oed os bydd y dysgwr yn bodloni'r meini prawf pellter neu oedran sydd fel arfer yn galluogi cludiant am ddim o dan adran 6 o fesur 1.46 Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol (2014).

Sut caiff y llwybr cerdded ei fesur?
O dan adran 3(7) o'r mesur dylid mesur y pellter cerdded yn ôl y 'llwybr byrraf sydd ar gael'. Ystyrir bod llwybr ar gael os yw'n ddiogel (cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol bosib) i ddysgwr heb anabledd neu anhawster addysgol gerdded ar y llwybr ar ei ben ei hun neu gydag oedolyn os yw oedran a dealltwriaeth y dysgwr yn goyn am hynny. Mesurir y llwybr cerdded o'r pwynt lle mae'r cyfeiriad cartref yn cwrdd â'r briffordd i'r ysgol e.e. nid 'côd post i gôd post'.

Nid yw cludiant yn cael ei grybwyll yn natganiad AAA fy mhlentyn / person ifanc neu ei Gynllun Datblygu Unigol. Pam?
Mae darpariaeth gludiant yn amhendant. Gall cymhwysedd newid oherwydd newid cyfeiriad, newid ysgol (drwy banel ADY a / neu bontio), newid dalgylchoedd a dewis rhieni. Felly, nid yw cludiant yn cael ei gynnwys yn y datganiad o AAA na'r CDU.

Mae fy mhlentyn / fy mherson ifanc yn gymwys am gludiant a hoffwn ofyn i weithredwr cludiant penodol fynd â fy mhlentyn i'r ysgol - ydy hyn yn bosib?
Ar brydiau, mae rhieni / gofalwyr yn gofyn i weithredwr penodol fynd â'r dysgwr i'r ysgol os yw'r cludiant ar ffurf cludiant teithwyr mewn tacsi. Bydd y cyngor yn tendro contractau drwy fframweithiau (pan fyddant ar gael) a rhaid iddo gydymffurfio â rheoliadau caffael, felly ni allwn nodi darparwyr cerbyd penodol. Caiff cyflenwyr eu monitro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau penodol contractau. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â thendro contractua'r cyngor ar gael ar ein tudalen tendro ar gyfer contract.

Mae fy mhlentyn / fy mherson ifanc yn mynychu cwrs ôl-16 - a yw'n gymwys am gludiant?
Nid yw'n ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu cludiant i'r ysgol neu'r coleg am ddim i ddysgwyr sy'n hŷn nag oedran ysgol gorfodol. Fodd bynnag, mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'i bwerau disgresiwn ar hyn o bryd i ddarparu cludiant i blant / bobl ifanc sy'n bodloni'r isafswm meini prawf pellter (tair milltir). Os nad yw'r ysgol ddynodedig neu'r coleg cysylltiol yn cynnig y cwrs astudio penodol y mae'r myfyriwr yn dymuno ei astudio, darperir cludiant i'r ysgol / coleg agosaf sy'n cynnig y cwrs os yw'n bodloni'r isafswm meini prawf pellter.

A fydd fy mhlentyn yn cael gasglu o'r coleg am amser penodol?
Darperir cludiant ar ddechrau a diwedd coleg cydnabyddedig, er enghraifft 9.00am tan 4.00pm. Ni ddarperir cludiant ar gyfer presenoldeb ad hoc neu yn ystod bylchau yn amserlen y diwrnod.

A fydd cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer parhad y cwrs?
Caiff trefniadau cludiant eu hadolygu'n rheolaidd er mwyn penderfynu a yw'r ddarpariaeth yn addas o hyd, mae'r awdurdod lleol yn parhau i hyrwyddo teithio annibynnol.

Nid yw fy mhlentyn yn gymwys am gludiant i'r coleg, fodd bynnag mae cludiant yn angenrheidiol yn fy marn i. A oes ffordd o wneud cais ar ran disgyblion nad ydynt yn gymwys?
Bydd trefniadau cludiant i ddysgwr ag ADY yn dibynnu ar ei amgylchiadau unigol a'r llwybr y mae'n rhaid iddo ei deithio. Mae Adran 4 o Fesur Teithio gan ddysgwyr (Cymru) yn nodi os nad yw dysgwr o oedran ysgol gorfodol / coleg yn gallu cerdded (wrth gael ei hebrwng neu beidio) i'w ysgol addas agosaf oherwydd anabledd neu anhawster dysgu, hyd yn oed os yw'r pellter i'w ysgol addas agosaf yn llai na'r terfyn statudol ar gyfer ei grŵp oedran, mae adran 4 y mesur yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau teithio priodol ar gyfer y plentyn hwnnw. Bydd angen i'r awdurdod lleol ystyried pa drefniadau sy'n briodol i hwyluso presenoldeb y dysgwyr yn yr ysgol, yn unol â'r polisi teithio gan ddysgwr.

Os nad yw'r dysgur yn gymwys am gludiant yn awtomatig, gall rheini gyflwyno ffurflen Cais am Gymorth Teithio (TAR) os ydynt yn teimlo bod cludiant yn angenrheidiol. Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu sut y caiff cymorth ei ddarparu, os cytunir i hyn. Ni allwn warantu y bydd cludiant preifat (cymorth i deithwyr mewn tacsi/bws mini) yn cael ei ddarparu - efallai y darperir pàs bws yn lle.

Bydd yr wybodaeth a ystyrir yn y TAR yn cynnwys asesiad gan y tîm trafnidiaeth, fel llwybrau cerdded sydd ar gael ac argaeledd cludiant cyhoeddus. Caiff Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig neu Gynllun Datblygu Unigol y dysgwr eu hystyried hefyd gan y penderfynwr/penderfynwyr.

Ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud gan y Panel ADY, anfonir hysbysiad o benderfyniad at y sawl sydd wedi gwneud y cais i roi gwybod am ganlyniad yr adolygiad TAR. Diben yr hysbysiad o benderfyniad yw amlinellu'r math o gymorth cludiant a ddarperir (os yw'n berthnasol), dyddiadau i'w nodi, amlinellu gweithdrefnau adolygu, rhestru'r dystiolaeth a ystyriwyd (os yw'n berthnasol), rhoi manylion deddfwriaeth ac arweiniad a ystyriwyd, nodi ffactorau a ystyriwyd a'r sail resymegol dros y penderfyniad. Caiff manylion am opsiynau apelio pellach eu cynnwys yn yr hysbysiad o benderyniad.

Hoffwyn ragor o wybodaeth ynghylch y rheolau a ddilynir gan y cyngor mewn perthynas â chludiant?
Dyma'r ddeddfwriaeth a'r arweiniad y mae'r cyngor yn eu dilyn mewn perthynas â chludiant o'r cartref i'r ysgol:

  • Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008;
  • Canllawiau Gweithredol a Darpariaeth Statudol 2014 y Mesur Teithio gan Ddysgwyr);
  • Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol Cyngor Abertawe (2015).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau cludiant i'r ysgol.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Gorffenaf 2023